Gor-boethi wedi lladd tri milwr ar Fannau Brycheiniog
- Cyhoeddwyd

Mae gwrandawiad arbennig cyn y cwest i farwolaeth tri milwr ar Fannau Brycheiniog yr haf diwethaf wedi clywed bod y tri wedi marw oherwydd gor-boethi.
Roedd y milwyr yn cymryd rhan mewn ymarferiad yr SAS ar Fannau Brycheiniog ar 13 Gorffennaf y llynedd wrth i'r tymheredd gyrraedd 29.5C.
Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts, 24, yn ystod yr ymarferiad a chafodd Edward Maher a James Dunsby, y ddau yn 31, eu cludo i'r ysbyty. Mi fuodd y ddau farw yn ddiweddarach.
Yn ystod y gwrandawiad yn Solihull fe ddaeth i'r amlwg bod organau Corpral Dunsby wedi methu.
Clywodd y gwrandawiad hefyd y bydd penderfyniad cyn diwedd y mis a fydd dau aelod o'r lluoedd arfog yn cael eu herlyn am ddynladdiad ai peidio o ganlyniad i'r marwolaethau.
Fe fydd gwrandawiad arall yn cael ei gynnal yn Birmingham ym mis Awst cyn i'r cwest llawn ddechrau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd3 Medi 2013
- Cyhoeddwyd8 Awst 2013
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2013