Taith De Affrica yn dechrau nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd
Dan LydiateFfynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,
Dan Lydiate sy'n arwain Cymru heno yn erbyn yr Eastern Province Kings.

Bydd Cymru yn herio'r Eastern Province Kings yn Port Elizabeth nos Fawrth, yng ngêm gynta' eu taith yn Ne Affrica.

Pwrpas gêm agoriadol taith De Affrica nos Fawrth, gyda'r gêm brawf gyntaf ddydd Sadwrn, yw cynllunio ar gyfer Cwpan y Byd pan fydd yn rhaid i Gymru chwarae gemau yn agos at ei gilydd.

Dywedodd Warren Gatland, hyfforddwr Cymru, y bydd yr amser byr rhwng gemau yn "her" i'w chwaraewyr wrth iddyn nhw baratoi i chwarae yn erbyn yr Eastern Province Kings yn Port Elizabeth.

Meddai: "Cynllunio a pharatoi ar gyfer Cwpan y Byd yw rhan fawr o'r daith hon a dyna yw bwriad y gêm yma - i geisio ymdopi gydag amser byr rhwng gemau, dewis chwaraewyr gwahanol a rheiny'n chwarae eu rhan.

"Os gallwn ddod drwy hyn gyda chwaraewyr wrth gefn yna rydym yn gwybod ymhen 12 mis, pan fyddwn yn mynd trwy'r un peth, fe fyddwn wedi cael y profiad.

"Dyna pam mae hyn yn dda i ni yn feddyliol ac yn gorfforol."

'Diffyg gwybodaeth'

Ond mae tîm hyfforddi Cymru wedi cydnabod nad ydyn nhw'n gwybod llawer am eu gwrthwynebwyr, sydd dan ofal cyn faswr Seland Newydd, Carlos Spencer. Newydd gael eu dyrchafu i uwchgynghrair y Currie Cup yn Ne Affrica mae'r Eastern Province Kings.

Dywedodd is hyfforddwr Cymru, Robin McBryde, fod paratoi i'w hwynebu wedi bod yn "anodd" oherwydd diffyg gwybodaeth am y tîm.

Meddai: "Does gennon ni ddim llawer o wybodaeth am chwaraewyr unigol, ond dydy hynny ddim yn beth drwg weithiau oherwydd mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein hunain a chael pethau'n iawn o'n safbwynt ni. "

Bydd y gêm yn cychwyn am 18:00 amser Cymru, gyda sylwebaeth fyw ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.

TIMAU

Eastern Province Kings: Hansie Graaff; Siviwe Soyizwapi, Ronnie Cooke, Shane Gates, Scott van Breda, George Whitehead, Kevin Luiter, Lizo Gqoboka, Edgar Marutlulle, Charl du Plessis, Darron Nell, Cameron Lindsay, Thembelani Bholi, Paul Schoemnan, Devin Oosthuizen.

Eilyddion: Albѐ de Swardt, BG Uys, Simon Kerrod, Steven Cummins, Stefan Willemse, Jaco Grobler, Dwayne Jenner, Ntabeni Dukisa.

Cymru: Matthew Morgan (Gweilch); Alex Cuthbert (Gleision Caerdydd), Cory Allen (Gleision Caerdydd), Steven Shingler (Scarlets), Jordan Williams (Scarlets); James Hook (Caerloyw), Rhodri Williams (Scarlets); Paul James (Caerfaddon), Scott Baldwin (Gweilch), Rhodri Jones (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Ian Evans (Gweilch), Dan Lydiate (capten, Racing Metro), Dan Baker (Gweilch), Josh Turnbull (Scarlets).

Eilyddion: Matthew Rees (Gleision Caerdydd). Aaron Jarvis (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Luke Charteris (Racing Metro), Aaron Shingler (Scarlets), Gareth Davies (Scarlets), George North (Seintiau Northampton), Liam Williams (Scarlets).