Hwb ariannol o £1 miliwn i brosiect morol
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun sy'n ceisio datblygu economi arfordirol Cymru wedi derbyn hwb ariannol o £1miliwn.
Yn barod mae prosiect SEACAMS (Ehangu Sectorau Arfordirol a Morol Cymwysedig mewn dull Cynaliadwy) sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth gyda phrifysgolion Aberystwyth ac Abertawe wedi gweithio gyda 60 o gwmnïau ar brosiectau ymchwil.
Bydd yr arian ychwanegol gan yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio i ehangu gwaith mapio a chasglu data yn ardal arddangos Ynys Môn.
Arbrofi
Yno, mae Stad y Goron yn archwilio cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy.
Yn y pen draw y bwriad yw bod busnesau yn gallu gwneud defnydd o'r data sy'n cael ei gasglu ar gyfer prosiectau cynhyrchu egni.
Meddai Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt: "Rydym wedi ymrwymo i frwydro yn erbyn effeithiau newid hinsawdd drwy fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer twf cynaliadwy.
"Da pam yr wyf yn falch bod arian yn helpu i ddarparu rhaglen arbennig a fydd yn galluogi busnesau i wneud y gorau o'r cyfleoedd a gyflwynir gan y farchnad ynni adnewyddol morol sy'n dod i'r amlwg."
Dywedodd Dr Gay Mitchelson-Jacob, Rheolwr Prosiect SEACAMS y byddai'r arian yn cael ei defnyddio i arbrofi amrywiaeth o dechnegau ar eu llong ymchwil, RV Prince Madog.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2010