Cronfa'r Teulu yn aiilddechrau dosbarthu grantiau
- Cyhoeddwyd

Mae elusen sy'n rhannu grantiau i deuluoedd ar incwm isel sydd â phlant anabl neu ddifrifol wael wedi ailddechrau rhoi arian i bobl.
Ym mis Mai roedd Cronfa'r Teulu, wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod wedi gorfod rhoi'r gorau i brosesu ceisiadau gan deuluoedd yng Nghymru oherwydd oedi wrth dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Erbyn hyn mae'r elusen wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn dros £2.6 miliwn ar gyfer 2014/15, a'u bod wedi dechrau delio gyda cheisiadau'r wythnos ddiwetha'.
Roedd gweinidogion yn Llundain, Caeredin a Belffast i gyd wedi cadarnhau ym mis Ebrill eu bod yn cefnogi'r elusen yn ariannol.
Meddai Cheryl Ward, prif weithredwr Cronfa'r Teulu: "Rwy'n hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus.
"Mae cadw'r cyllid ar yr un lefel â llynedd yn y cyfnod heriol hwn yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth i deuluoedd sy'n magu plant anabl a difrifol wael.
"Byddwn yn gwneud ein gorau glas i roi grantiau i deuluoedd cyn gynted ag y bo modd. Hoffwn ddiolch i'r holl deuluoedd."
Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford wedi cytuno i roi'r arian i'r gronfa.
Yn 2013/14 rhoddwyd grantiau i tua 5,000 o deuluoedd yng Nghymru. Eleni roedd yna 500 o deuluoedd wedi gwneud ceisiadau i'r gronfa ac yn disgwyl am ateb pan gyhoeddwyd bod yr elusen yn rhoi'r gorau i ddelio â cheisiadau am y tro.
Mae'r grantiau yn cael eu defnyddio i dalu am gostau teithio i'r ysbyty, oergelloedd newydd a phoptai, gwyliau a deunyddiau addysgol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2014