Cwmni lleol yn adeiladu ysgol yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Dymchwel Ysgol GroeslonFfynhonnell y llun, Gerallt Llewelyn

Mae prosiect gwerth £4.8 miliwn i adeiladu ysgol ardal i wasanaethu cymunedau'r Groeslon, Carmel a'r Fron gam yn nes.

B'nawn dydd Llun daeth cadarnhad mai cwmni lleol o Wynedd, Watkin Jones, sydd wedi ennill y prif gontract i adeiladu'r ysgol.

Ar ô gorffen dymchwel rhan helaeth o adeilad presennol Ysgol y Groeslon, bydd adeiladu'r ysgol newydd yn cychwyn ddydd Llun 16 Mehefin.

Bydd yr ysgol newydd yn cwrdd â holl ofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Bydd yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd grŵp, gofod ymarferol, neuadd fodern, cyfleusterau ar gyfer staff a sawl ardal chwarae.

Bydd yr adeilad hefyd yn cyrraedd y safonau amgylcheddol uchaf posibl.

'Hynod falch'

Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: "Rwy'n hynod falch fod y gwaith ar yr ysgol newydd sydd fawr ei hangen ar fin cychwyn.

"Mae swyddogion y Cyngor wedi llunio cynlluniau cyffrous ar gyfer yr ysgol ac rwy'n sicr pan fydd yr ysgol newydd yn agor ym mis Medi 2015, y bydd yn darparu awyrgylch dysgu modern arbennig ar gyfer plant Y Groeslon, Carmel a'r Fron.

"Ein nod yw sicrhau fod gan holl ddisgyblion Gwynedd fynediad i gyfleusterau addysg o'r radd flaenaf.

"Rydym yn hyderus y bydd yr ysgol ardal newydd ... yn un hyfryd newydd sbon fydd yn caniatáu iddynt wireddu eu potensial."

Mae disgwyl i'r ysgol groesawu'r disgyblion cyntaf ym mis Medi'r flwyddyn nesaf.