Gwrthdrawiad: Enwi dau fu farw
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enwau dau o bobl fu farw mewn gwrthdrawiad yn Gilfach Goch ddydd Sadwrn.
Roedd Lee Jenkins, 25, a Raquel Louise Davies, 23, yn byw yn lleol ac maen nhw'n gadael mab naw wythnos oed, Harley.
Roedd y ddau yn cael eu cludo mewn BMW gwyn - yr unig gerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad.
Mae dyn 20 oed wedi ei arestio dan amheuaeth o achosI marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ac mae'n cael ei gadw'n y ddalfa.
Mae teuluoedd Mr Jenkins a Ms Davies wedi talu teyrnged iddyn nhw.
Mewn datganiad, fe ddywedodd teulu Mr Jenkins ei fod yn "boblogaidd iawn, a chanddo nifer o ffrindiau. Mae calonnau'r holl deulu wedi eu torri... Roedd ganddo berthynas agos iawn â'i frawd a'i chwaer...
Roedd o'n caru ei ddyweddi, Raquel, ac yn mwynhau bod yn dad newydd i Harley... Fe fydd pawb oedd yn ei adnabod yn gweld ei eisiau."
Meddai teulu Ms Davies:
"Roedd Raquel yn berffaith ymhob ffordd... Roedd hi'n fam ymroddgar a gwych i'w mab ifanc ac yn caru ei dyweddi yn fawr iawn. Hi oedd ein ffrind gorau. Fe fydd colled enfawr ar ei hôl."
Mae heddlu'n parhau i ymchwilio i beth achosodd y gwrthdrawiad.
Gall unrhywun sydd gyda gwybodaeth gysylltu ag Uned Heddlua'r Ffyrdd ar 101 neu drwy ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- 8 Mehefin 2014