Cartref newydd i BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i BBC Cymru gyhoeddi ddydd Mawrth pa leoliad maen nhw'n ffafrio ar gyfer eu pencadlys newydd yng Nghaerdydd.
Mae'r darlledwr yn bwriadu gadael y Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf - cartre' BBC Cymru yn y brifddinas ers 1966.
Yn ôl y gorfforaeth, mae'r adeilad presennol yn heneiddio ac mae angen gwella'r isadeiledd ar gyfer gwasanaethau'r dyfodol.
Mae tri safle o dan ystyriaeth - dau yng nghanol y ddinas ger y brif orsaf drenau, ac un ym Mae Caerdydd, wrth ymyl y Senedd.
Eisoes mae cynyrchiadau drama teledu'r BBC - gan gynnwys timau Pobl y Cwm a Doctor Who - wedi symud i stiwdios Porth y Rhath ym Mae Caerdydd, ac mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi adleoli i Neuadd Hoddinot, hefyd yn y bae.
Bydd y ganolfan newydd yn gartre' i lawer o raglenni BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, yn ogystal â chynyrchiadau teledu Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys Newyddion 9, Wales Today, a rhaglenni materion cyfoes a chwaraeon.
Bydd aelodau o'r tîm gwasanaethau ar-lein yn symud hefyd.
Mae gan BBC Cymru bresenoldeb hefyd mewn canolfannau llai ym Mangor, Wrecsam, Aberystwyth, Caerfyrddin ac Abertawe.
Bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud i staff BBC Cymru yn ystod y dydd. Deellir fod Ymddiriedolaeth y BBC eisoes wedi cymeradwyo'r cynlluniau.
Mae adeiladau presennol y BBC yn Llandaf - y Ganolfan Ddarlledu a Tŷ Oldfield - ar werth.