Cam nesaf i gynllun Lagŵn Bae Abertawe
- Cyhoeddwyd

Bydd cam nesaf cynllun i adeiladu lagŵn llanw ym Mae Abertawe yn cael ei lansio ddydd Mawrth.
Mae'r Arolygiaeth Gynllunio wedi dechrau cyfnod o archwiliad cyhoeddus ynglŷn â'r cynllun.
Mae'r cwmni y tu ôl i'r lagŵn wedi dweud y gall greu 420,000 megawat o drydan y flwyddyn, digon i gyflenwi 121,000 o gartrefi, os caiff ei adeiladu.
Bydd y cyfnod archwilio yn cynnwys nifer o wrandawiadau cyhoeddus yn yr ardal leol, cyn i'r Arolygiaeth Gynllunio wneud argymhelliad i'r Gweinidog dros Ynni a Newid Hinsawdd.
'Cam pwysig iawn'
Byddai'r prosiect £756m yn cynnwys 'wal môr' 10.5 cilometr (6.5 milltir) o hyd fyddai'n gallu dal 11 cilometr sgwâr (4 milltir sgwâr) o ddŵr.
Mae un astudiaeth wedi awgrymu y gallai'r cynllun greu 1,850 o swyddi ac ychwanegu £173m at werth nwyddau a gwasanaethau yn y rhanbarth yn ystod y cyfnod adeiladu fyddai'n para tair blynedd.
Dywedodd Prif Weithredwr Tidal Lagoon Power, Mark Shorrock: "Mae gan yr Arolygiaeth Gynllunio chwe mis i gwblhau'r archwiliad.
"Mae hwn yn gam bwysig iawn yn y broses fydd, rydyn ni'n gobeithio, yn ein gweld ni ar y safle ym Mae Abertawe yn 2015 gyda'r ynni cyntaf yn cael ei greu yn 2018.
"Roedd 86% o'r cyhoedd yn cefnogi'r cynllun yn ystod yr ymgynghori ac rydyn ni'n parhau i weld cefnogaeth wrth i'r cynllun gyrraedd cam olaf ei ddatblygiad."
Straeon perthnasol
- 4 Rhagfyr 2013
- 7 Mai 2014