Cymru dan 20 13-3 Ffrainc dan 20

  • Cyhoeddwyd
Cymru dan 20Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae tîm rygbi Cymru dan 20 wedi curo Ffrainc yn eu trydedd gêm ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn Seland Newydd.

Mae'r canlyniad yn golygu eu bod nhw'n gorffen yn yr ail safle yn eu grwp, ac yn cael y cyfle i chwarae yn y gemau ail-gyfle i benderfynu pwy fydd yn dod yn bumed, chweched, seithfed ac wythfed yn y bencampwriaeth.

Wedi dechrau addawol i'r ymgyrch gan guro Fiji, colli oedd hanes Cymru yn erbyn Iwerddon ddydd Gwener - roddodd ddiwedd ar eu gobeithion o fod yn y rownd gyn-derfynol.

Fodd bynnag, fe sicrahodd cais gan Tom Williams ac wyth pwynt gan gicio Angus o'Brien fuddugoliaeth yn erbyn y Ffrancwyr yng ngêm derfynol rownd y grwpiau.

Nawr, gall Cymru orffen y bencampwriaeth mor uchel â'r pumed safle.