Enwi carfan nofio Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad
- Cyhoeddwyd

Mae Tîm Cymru wedi cyhoeddi pwy fydd yn y garfan nofio yn Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow.
Roedd saith o nofwyr, yn cynnwys Jazz Carlin, Jemma Lowe, Georgia Davies a Thomas Haffield, eisoes yn rhan o'r garfan.
Nawr, mae 16 yn ychwanegol wedi eu hychwanegu.
Yn ôl prif weithredwr Cyngor Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru, Chris Jenkins, mae'n "ffantastig bod rhai o enillwyr medalau'r Gemau yn Delhi yn 2010 yn cystadlu eto."
Fe fydd y rhan fwyaf o'r 16 aelod newydd gafodd eu hychwanegu i'r garfan ddydd Mawrth yn gystadlu yn y gemau am y tro cyntaf.
Ychwanegodd Jenkins: "Heblaw am y saith nofiwr gafodd eu dewis gynta', mae'n dîm ifanc iawn a chymharol ddibrofiad. 'Dy ni wrth ein boddau y gallwn ni gynnig profiad amhrisiadwy ar lwyfan rhyngwladol."
Y garfan yn llawn: Jazmin Carlin (200m, 400m a 800m rhydd), Georgia Davies (50m a 100m cefn, 4x100m cyfnewid amrywiol), Mari Davies (4 x100m cyfnewid rhydd), Thomas Haffield (400 IM), Robert Holderness (200m broga, 4x100m cyfnewid amrywiol), Ieuan Lloyd (200m IM), Calum Jarvis (200m rhydd, 4x100m cyfnewid amrywiol), Daniel Jervis (1,500m rhydd), Ellena Jones (800m rhydd), Tom Laxton (100m pili-pala, 4x100m cyfnewid amrywiol), Marco Loughran (50m cefn, 4x100m cyfnewid amrywiol), Jemma Lowe (100m a 200m pili-pala, 4x100m cyfnewid amrywiol), Hannah McCarthy (4x100m cyfnewid rhydd, 4x100m cyfnewid amrywiol), Xavier Mohammad (4x100m cyfnewid amrywiol), Sian Morgan (4x100m cyfnewid rhydd, 4x100m cyfnewid amrywiol), Otto Putland (100m rhydd, 4x100m cyfnewid amrywiol), Bethan Sloan (4x100m cyfnewid amrywiol), Danielle Stirrat (4x100m cyfnewid rhydd), Alys Thomas (4x100m cyfnewid amrywiol), Jack Thomas (200m rhydd S14), Chloe Tutton (200m broga, 4x100m cyfnewid amrywiol), Ryan West (100m rhydd S9), Rachel Williams (4x100m cyfnewid rhydd).