Lladd beiciwr: Dedfrydu tri
- Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn a dynes o Bont-y-pŵl wedi eu dedfrydu i gyfanswm o 13 mlynedd a naw mis dan glo am ddynladdiad beiciwr yn Nhorfaen y llynedd.
Fe blediodd Deon Morgan, 20 oed ac Andrew Vass, 26 oed yn ddieuog yn ystod yr achos llys fis Ebrill, a chafodd y ddau eu dedfrydu i bum mlynedd o garchar.
Fe blediodd Casey Coslett, 20, yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad. Fe gafodd o'i ddedfrydu i 3 blynedd a naw mis dan glo.
Roedd y tri yn rhan o farwolaeth John Reeder - dyn 63 oed gafodd ei wthio oddi ar ei feic gan Coslett yn oriau mân Awst 7.
'Ceisio dianc'
Bu farw yn dilyn y digwyddiad oherwydd ei anafiadau.
Fe glywodd y llys bod Morgan a Vass wedi rhedeg ar ôl Mr Reeder, cyn i Coslett "gydio yn, neu wthio" Mr Reeder wrth iddo geisio dianc oddi wrthyn nhw.
Wrth ddedfrydu, fe ddywedodd y Barnwr Eleri Rees wrth Deon Morgan - fu mewn 34 o gartrefi maeth pan oedd hi'n blentyn:
"Does dim dwywaith eich bod chi wedi eich niweidio gan brofiadau corfforol ac emosiynol pan oeddech chi'n blentyn - heblaw am hyn byddai'ch dedfryd lawer yn hirach.
"Roedd y tri ohonoch yn disgwyl am Mr Reeder, ac yn gwybod y byddai o'n eich ofni oherwydd beth ddigwyddodd y noson cyn hynny."
'Yn betrus'
Roedd y tri wedi bod yn poenydio Mr Reeder ar ei feic y diwrnod cyn yr ymosodiad, gan ei adael "yn betrus" a "dan straen".
Fe ddywedodd hi wrth y tri y dylen nhw gymryd mantais o bob cymorth ar gael yn y carchar, er mwyn bod "yn bobl well ar ôl cael eich rhyddhau".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2014