Ffarwelio ar gyfer Gemau'r Gymanwlad
- Cyhoeddwyd

Mae dros 100 o'r 202 o athletwyr sydd wedi eu dewis hyd yn hyn i gystadlu dros Dîm Cymru yng ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow 2014 yn ymgynnull yn Stadiwm SWALEC Caerdydd ddydd Mercher i ffarwelio'n swyddogol.
Ymhlith yr athletwyr fydd yn bresennol mae Dai Greene, Helen Jenkins ac Aled Davies.
Yno i ffarwelio a nhw, saith wythnos cyn seremoni agoriadol y Gemau, fydd y prif weinidog, Carwyn Jones, saith wythnos cyn seremoni agoriadol y Gemau.
Mae Brian Davies, rheolwr perfformiad uchel yn Chwaraeon Cymru, wedi cael ei benodi'n ffurfiol yn Chef de Mission i Dîm Cymru a bydd yn gyfrifol am arwain y tîm i'r Gemau yn Glasgow.
Dywedodd Mr Davies, "Mae'n anrhydedd mawr i mi gael fy mhenodi fel Chef de Mission ar gyfer y tîm.
"Rwy'n hyderus y gallwn ddarparu Gemau gwych i Gymru".
Bydd yr athletwr a ddewiswyd i fod yn gapten ar Dîm Cymru yn cael ei gyhoeddi yn ystod y seremoni ffarwelio. .
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones; "Hoffwn ddymuno "pob lwc" enfawr i'r tîm cyfan, gan gynnwys pawb sy'n gweithio'n galed yn y cefndir.
"Mae'r genedl gyfan y tu ôl i chi"
Straeon perthnasol
- 26 Mai 2014