Datganoli 15: Addysg

dosbarth ysgol Image copyright Thinkstock
Image caption Mae cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros addysg wedi arwain at drafodaeth newydd am safonau

Ym myd addysg mae datganoli wedi arwain at newidiadau amlwg a phellgyrhaeddol.

Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae ein hysgolion, colegau a phrifysgolion wedi newid yn aruthrol, a hynny o ganlyniad i bolisïau sy'n deillio o Fae Caerdydd.

Gyda thraddodiad balch y Cymry ym maes addysg, gwelodd y gwleidyddion eu cyfle i roi stamp "Cymreig" ar wahanol elfennau.

Ym mlynyddoedd cyntaf y Cynulliad, gyda Jane Davidson yn Weinidog Addysg, daeth y penderfyniad i wneud i ffwrdd â thablau perfformiad ar gyfer ysgolion - felly hefyd y profion TASau.

Bryd hynny y gred oedd bod ysgolion Cymru a'r system addysg yn un o'r gorau ym Mhrydain. Ond bellach, gyda chanlyniadau profion addysg rhyngwladol siomedig, mae'r gwenidog addysg presennol Huw Lewis wedi cydnabod bod y llywodraeth wedi colli gafael ar safonau addysg ym mlynyddoedd cyntaf datganoli.

Beth mae'n ei olygu?

Pan wnaeth Jane Davidson y penderfyniad i gael gwared â'r TASau y syniad oedd cyflwyno profion eraill yn eu lle. Ond ddigwyddodd hynny ddim.

Y syniad, yn ôl y dyn wnaeth yr argymhelliad gwreiddiol, Richard Daugherty, oedd bod angen rhyw fath o arholiad i weithio fel ffon fesur i weld sut mae plant yn datblygu yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.

"Mae hwnnw'n gwestiwn dilys ac mae pawb eisiau gwybod am bethau fel 'na. Ond mae angen y dystiolaeth arnoch chi i wneud hynny.

"Ac oni bai bod gennoch chi'r systemau cywir a'r dystiolaeth gadarn fyddwch chi methu defnyddio'r dystiolaeth. Dyna'r broblem - nid mater o gael ffon i guro'r ysgolion ydy hyn. Mae'n ymwneud â chael y dystiolaeth angenrheidiol ar bob lefel i weld lle mae pethau'n mynd o'i le a gweld beth sydd angen ei wella."

Am sawl blwyddyn doedd gan y llywodraeth ddim ffordd bendant o wybod sut oedd y plant yn datblygu tan iddyn nhw sefyll arholiadau TGAU ar ddiwedd eu cyfnod yn yr ysgol.

Bellach mae hynny wedi newid. O hyn allan, mae plant Cymru yn sefyll prawf darllen a rhifeg pob blwyddyn o saith oed ymlaen.

Yn yr un modd, wedi cael gwared â'r tablau ysgolion, mae Llywodraeth Cymru wedi bandio ysgolion ers tair blynedd.

Felly pam yr holl bryder am addysg?

Mae hynny'n deillio yn rhannol o ganlyniadau'r profion addysg rhyngwladol, PISA. Ers i'n disgyblion 15 oed sefyll y profion yma am y tro cyntaf yn 2006, mae'r canlynaidau wedi siomi dro ar ôl tro. Maen nhw'n dangos nad ydan ni ymhlith gwledydd gorau'r byd o ran addysg, yn wir, mi rydan ni'n agosach at y gwaelod na'r brig.

Ar sail hynny, mae hi'n anodd gweld sut mae Llywodraeth Cymru wedi "llwyddo" ym maes addysg.

Ond mae yna feinciau prawf eraill. Un o'r mwyaf teg o ran cymharu Cymru gyda gweddill gwledydd Prydain ydy Astudiaeth Cohort y Mileniwm. Mae'n astudiaeth sydd wedi dilyn bywydau rhyw 20,000 o blant ym Mhrydain a anwyd yn 2000-2001.

Os liciwch chi, dyma blant datganoli.

Mae'n dangos fod plant Cymru yn waeth na phlant o gefndiroedd tebyg yng ngweddill Prydain yn y profion darllen; tua'r un peth o ran mathemateg ac yn well o ran eu gallu i ddadansoddi a meddwl yn greadigol.

Ond tydy hynny ddim yn adlewyrchu canlyniadau TGAU, nac ydy? Yn fanno, y gred ydy bod Cymru ym mhell ar ei hôl hi o gymharu â Lloegr, a bod y sefyllfa wedi gwaethygu ers datganoli, fel ma'r graph isod yn ei ddangos.

Image caption % o ddisgyblion sydd wedi cael o leiaf 5 TGAU A* - C (neu gyfatebol) rhwng 95/96 a 12/13: Cymru yn goch, Lloegr yn las

Ond, yn ôl y Dr Mirain Rhys o Brifysgol Caerdydd, tydy'r canlyniadau ddim yn rhoi darlun cyflawn.

"Beth sy'n arwyddocaol ydy cyn lleied o blant yng Nghymru sy'n dilyn cymwysterau galwedigaethol fel B-TECs ac NVQs. Yn Lloegr mae'r ysgolion yn fwy tebygol o wthio plant ar hyd y trywydd yna yn hytrach nag arholiadau TGAU a dyna sy'n gyfrifol am lawer o'r bwlch honedig yn y canlyniadau TGAU neu gymwysterau tebyg."

Ariannu addysg

Pa bynnag ganlyniadau y penderfynwn ni eu derbyn, mae athrawon yn gytûn bod ariannu ysgolion wedi bod yn wallus ers datganoli. Y tro diwethaf i ni gyfri, yn 2009, roedd Llywodraeth Cymru yn gwario £600 y disgybl yn llai na Lloegr pob blwyddyn.

Bellach mae hi bron yn amhosib cymharu'r ddwy wlad wedi i Lywodraeth Prydain wario ar Ysgolion Academi, Ysgolion Rhydd a phob math o gynlluniau eraill.

Ond mae undebau athrawon o'r farn bod y ffigwr, os rhywbeth, wedi tyfu.

Mae'r llywodraeth yn mynnu nad faint o arian sy'n cael ei wario sy'n bwysig, ond sut mae'n cael ei wario.

Mae'n bosib mae'r newid mwyaf arwyddocaol yn y byd addysg ôl-ddatganoledig ydy'r cyfnod sylfaen. I'r plant ieuengaf, rhwng 3-7 oed, mae wedi gweddnewid sut fyddan nhw'n dysgu yn yr ysgol.

Y syniad ydy annog cariad at ddysgu, fydd yn parhau gydol oes.

Ond er ei fod wedi bod yn ein hysgolion ers bron i wyth mlynedd, yn ôl adroddiadau diweddar ar ran y Llywdoraeth, cymysg ydy'r cynllun mewn gwahanol rannau o Gymru.

'Chwit-chwat'

Yn ystod blynyddoedd cynnar y Cynulliad, bu'r Athro Richard Daugherty yn gwneud llawer o waith ar ran y Llywodraeth yn mesur sut oedd y polisïau yn cael eu gweithredu.

Daeth i'r casgliad mai agwedd go chwit-chwat oedd i gyflwyno polisïau newydd; nad oedd y llywodraeth yn gwneud llawer o ymdrech i weld sut oedd eu polisïau yn gweithio. Ac yn ei farn o, rhan o'r rheswm am hynny oedd diffygion y gwasanaeth sifil yn 1999:

"Mi gafodd Yr Alban ei senedd ei hun yn 1999 ond mi roedd y swyddogion yn fanno wedi bod yn gwneud polisïau addysg am nifer o flynyddoedd ac wedi hen arfer eistedd gyda phobl a meddwl am yr hyn oedd ei angen a sut oedd gwneud hynny.

"Felly unwaith y cawson nhw eu senedd y cyfan oedd angen ei wneud oedd cyfeirio hynny at aelodau senedd yr Alban. Yng Nghymru doedd ganddyn nhw ddim o'r profiad hynny, heblaw am feysydd cyfyng iawn, fel Llundain yn disgwyl i Gymru weithredu ar bolisïau yr iaith. Ond o ran y darlun mawr, doedd ganddyn nhw mo'r profiad, ac roedd agnen iddyn nhw weithredu o'r dechrau."

Mae hynny wedi newid bellach. Ond wrth ymchwilio i flynyddoedd cynnar datganoli, mi roedd honno'n gŵyn oedd yn codi'n aml; roedd y polisïau yn galonogol, ond y gweithredu yn sâl dros ben.

Mi roedd yn gyfnod lle gwelwyd nifer o newidiadau a llu o gynlluniau addysg newydd.

Straeon perthnasol