Eastern Province Kings 12 - 34 Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi mwynhau buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn yr Eastern Province Kings yn eu gêm gyntaf ar eu taith yn Ne Affrica.
O flaen torf o 12,000 yn stadiwm Bae Nelson Mandela aeth Cymru ar y blaen diolch i ddau gais cynnar gan Josh Turnbull a Cory Allen.
Brwydrodd y tîm cartref eu ffordd yn ôl i'r gêm ar ôl i Rhodri Jones gael ei ddanfon i'r gell cosb, ond fe wnaeth y Cymry wrthsefyll pwysau'r gwrthwynebwyr.
Yn gynnar yn yr ail hanner fe ddaeth dau gais arall, un yr un i'r olwyr James Hook ac Alex Cuthbert.
Ildiodd Cymru gais i'r asgellwr Soyizwapi hanner ffordd drwy'r ail hanner, ond fe sgoriodd Gareth Davies bumed cais Cymru yn fuan wedyn i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i Gymru.
Y tîm cartref gafodd y gair olaf gyda chais haeddiannol yn yr eiliadau olaf.
Roedd y cefnwr Matthew Morgan yn bresenoldeb amlwg yn ei gêm gyntaf i'w wlad, ac uchafbwynt arall i Gymru oedd croesawu Matthew Rees i'r cae fel eilydd am ei ymddangosiad cyntaf i'w wlad ers gwella o salwch difrifol.
Roedd hi'n ganlyniad calonogol i Gymru felly cyn y gêm brawf yn erbyn De Affrica dydd Sadwrn.