Adroddiad Comisiwn yn beirniadu'r heddlu

  • Cyhoeddwyd
Christopher Veal
Disgrifiad o’r llun,
Methodd yr Heddlu ac adnabod bod Christopher Veal yn droseddwr rhyw

Mae adroddiad swyddogol gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn dweud fod yr heddlu wedi methu a gwneud digon yn achos dynes o dde Cymru wnaeth ddioddef ymosodiad difrifol gan ei phartner, o flaen ei phlant yn ei chartref.

Fe wnaeth Christopher Veal ymosod ar Charmaine Lewis gyda morthwyl, dyddiau ar ôl iddi ddweud wrth yr heddlu ei fod wedi ymosod arni o'r blaen, ac yn fuan ar ôl iddi gael ei chludo yn ôl i'w chartref gan yr heddlu.

Dywedodd Jan Williams Comisiynydd y Comisiwn: " Rydym wedi dod i'r casgliad yn dilyn yr ymosodiad cyntaf na wnaeth yr heddlu roi blaenoriaeth i'r achos, na chwaith ei drin fel achos brys.

"Fe fethodd unrhyw un a chymryd cyfrifoldeb llawn am yr achos, gan roi'r ddynes hon a'i phlant mewn risg hynod.

"Mae gan Heddlu De Cymru y wybodaeth a systemau i allu rhoi rhybudd fel bod modd rhoi rybudd o'r peryg, ond ar wahanol adegau ni ddaeth swyddogion o hyd i'r wybodaeth i asesu'r risg yn iawn. "

Derbyn cwynion

Ar Awst 29, 2011, ar ôl i Ms Lewis ddweud ei bod hi'n teimlo dan fygythiad, cafodd ei chludo yn ôl i'w fflat yn y Tyllgoed yng Nghaerdydd, lle ymosododd Veal arni.

Disgrifiad o’r llun,
Collodd Charmaine Lewis ddannedd yn yr ymosodiad gan Christopher Veal

Cafodd Veal ei arestio a'i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol, ond crogodd ei hun yng Ngharchar Bryste yn Nhachwedd 2011 cyn yr achos llys.

Mae adroddiad y Comisiwn yn argymell y dylai un swyddog wynebu achos disgyblu o gamymddwyn am ei rôl yn yr achos.

Mae'r IPCC hefyd yn argymell y dylai rheolwyr ymchwilio i berfformiad gwael un heddwas arall, ynghyd â thri swyddog yn yr y stafell rheoli.

Roedd yr heddlu wedi methu ac adnabod Veal fel troseddwr rhyw i ddechrau ar ôl i swyddog yn y ganolfan alwadau sillafu ei enw yn anghywir.

Daeth y wybodaeth yma i'r amlwg yn ddiweddarach, ond er hynny, ni chafodd y wybodaeth ei basio ymlaen i'r swyddogion oedd yn delio gyda Ms Lewis.

'Gwaed i gyd'

Mae'r heddlu hefyd wedi cael eu beirniadu am fethu a chyfeirio'r achos i'r IPCC am ymchwiliad. Cafodd yr achos ei gyfeirio yn Rhagfyr 2012 ar ol i Ms Lewis ofyn am gymorth gan Aelod Seneddol De Clwyd, Susan Elan Jones.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Susan Elan Jones wedi dweud bod angen dysgu gwersi o'r achos

Dywedodd Ms Lewis: "Fe wnaeth o daro fy mhen... sefyll ar fy nghorff a thorri fy asennau. Roeddwn i'n waed i gyd... Deffrais yn yr ysbyty.

"Roedd o yn risg mawr. Roeddwn i wedi ymddiried yn yr heddlu... Dylen nhw wedi fy nghadw yn yr orsaf neu aros tan eu bod nhw wedi ei arestio fo...

"Rydw i eisiau i'r heddlu gael eu cosbi am yr hyn maen nhw wedi ei wneud."

Ymddiheuriad

Dywedodd Susan Elan Jones: "Dydi Charmaine ddim am i unrhyw un arall fynd trwy'r un profiad erchyll y mae hi wedi.

"Dwi'n meddwl mai'r peth pwysig yw edrych ar yr hyfforddiant y mae'r heddlu a phobl broffesiynol eraill yn ei gael mewn delio gyda thrais yn y cartref... Mae'n bwysig iawn bod gwersi yn cael eu dysgu."

Dywedodd Dirprwy Uwch Gwnstabl Heddlu De Cymru, Matt Jukes: "Mae'n glir nad oedden ni wedi darparu'r gofal a'r diogelwch yr oedd angen ar y dioddefwr a'i phlant yn yr achos hwn ac mae'n wir ddrwg gennym ni am hynny.

"Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweithio yn galed iawn i wella ein hymateb i achosion o drais yn y cartref a tra bod hyn wedi dod yn rhy hwyr i gefnogi'r dioddefwr yn yr achos yma, mae gennym ni dystiolaeth dda ei fod yn darparu ymateb gwell i ddioddefwyr trais yn y cartref nawr, a helpu i'w cadw yn ddiogel."