Tân: Anafu ar ôl neidio o dŷ
- Cyhoeddwyd
Mae dynes yn cael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl iddi neidio o lawr cyntaf tŷ oedd ar dân yn sir Gaerfyrddin.
Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub eu galw i Tir Einon, Cefncaeau, Llanelli am 2am ddydd Mercher.
Llwyddodd dau griw o Lanelli ac un criw o Orseinon i reoli'r tân.
Aed â dyn i'r ysbyty yn dioddef o effaithiau mwg.
Mae yna ymchwiliad wedi dechrau i achos y tân.