Datganoli 15: Yr amgylchedd
Iolo ap Dafydd
Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru - trydar @apdafyddi
- Cyhoeddwyd

Ers 1999 mae ymrwymiad i egwyddor cynaliadwyedd wedi cael ei ystyried yn rhan annatod o bolisiau llywodraethau Cymru.
Fe allai'r rhethreg gael sylfaen gadarnach ymhen rhai misoedd, gyda Mesur Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae rhannau helaeth o gyfrifoldebau dros yr amgylchedd wedi eu datganoli.
Er hyn, deddfwriaethau Ewropeaidd sy'n gosod sail llawer o bolisïau Cymru, fel gwledydd eraill Prydain.
Ond yn ystod y 15 mlynedd diwethaf mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â pha mor amgylcheddol y bu'r gweinyddu o Gaerdydd, yn enwedig ym maes ynni a chadwraeth.
Ffiniau cenedlaethol
Mae digon wedi canmol llywodraeth Cymru am gyflwyno polisïau Cymreig fel sefydlu Llwybr Arfordir Cymru, codi tâl 5 ceiniog ar fagiau plastig, a gwella ail gylchu o fewn y cynghorau sir.
Ond mae tirwedd a byd natur Cymru yn gysylltiedig gyda gweddill ynysoedd Prydain, a chyfandir Ewrop.
Dydy problemau a ddaw yn sgil llifogydd a stormydd: o newid hinsawdd neu lygredd, ddim yn parchu ffiniau cenedlaethol.
Yn ôl pennaeth WWF Cymru, Anne Meikle, un o bolisïau mwyaf atyniadol Cymru oedd Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned bum mlynedd yn ôl.
"Yn 2009 pan wnaethon nhw ddatblygu Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned, cynllun go iawn i gyflawni gan ddefnyddio dim ond ein cyfran deg o adnoddau'r ddaear, roedd hynny'n ymrwymiad hynod uchelgeisiol.
"Sef lleihau ein defnydd o adnoddau 75% - gweithredu ar draws y llywodraeth gyfan - ac roedd rhai targedau clir a chynlluniau clir ynddo. Yr oedd hynny yn wirioneddol arloesol."
Mesur llwyddiannau amgylcheddol sy'n anodd. Mae rhyw fath o ddadansoddiad gan Peter Davies, comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru.
Mae'n cyfeirio at 40 dull o fesur sefyllfa'r amgylchedd. Mae 22 o'r dangosyddion yn dangos gwelliant, 17 heb newid, un sy'n asesu niferoedd adar yng Nghymru wedi gostwng, a thri maes arall ble nad oes digon o dystiolaeth.
Dywedodd Mr Davies: "Yr wyf yn cwestiynu a yw'r dangosyddion hynny yn rhoi'r wybodaeth gywir i ni er mwyn i ni bwyso a mesur. A oes gennym y mesurau cywir?"
'Sgarmes'
Wrth ganmol targed lleihau allyriadau 40% erbyn 2020 - a nod o'u gostwng 3% bob blwyddyn, dydy Llywodraeth Cymru erioed wedi egluro, yn ôl Gareth Clubb o fudiad Cyfeillion y Ddaear, sut mae cyflawni hynny.
Dywedodd Mr Clubb: "Efallai bod 'na ormod o bwyslais ar gael ffermydd gwynt mewn mannau penodol, ac mae hynny'n creu rhyw sgarmes o gwmniau sydd eisiau cael eu ceisiadau cynllunio wedi eu hystyried yr un pryd.
"Ac yn llawer iawn o'r ardaloedd yma mae'r hewlydd yn fach, ac mae hynny'n mynd i achosi problemau trafnidiaeth."
Newydd ei gyhoeddi mae adroddiad sy'n dadansoddi nwyon tŷ gwydr dros 20 mlynedd, ac yn dangos tra bod allyriadau Cymru 18% yn is ar gyfartaledd rhwng 1990-2012, ond bod cynnydd o 5% yn 2011-12.
Yng Nghymru y bu'r cynnydd mwyaf o bedair gwlad y Deyrnas Gyfunol o achos gaeaf oer a'r defnydd o lo i greu pwer a bod Cymru yn darparu hynny ar gyfer y ddwy ochr i Glawdd Offa.
Mae maes ynni adnewyddol hyd yn oed yn fwy dadleuol - maes sy'n cael ei ddatblygu er mwyn cael trydan o ffynonnellau glanach na glo, nwy ag olew.
Dyma faes sawl brwydr eiriol, a gwrthdystiadau gyda channoedd o bobl yn ymgasglu o flaen y Senedd, yn y Trallwng a phentref diarffordd Cefn Coch yn sir Drefaldwyn, i gwyno am ffermydd gwynt a pheilonnau cario gwifrau trydan newydd.
'Lles ariannol'
Un bai yn ôl y protestwyr ydy polisi TAN8 (Nodyn Cyngor Technegol, rhif 8) Llywodraeth Cymru naw mlynedd yn ôl i sefydlu saith ardal i ddenu datblygwyr melinnau gwynt i godi tyrbeini ynni gwynt.
Y gweinidog amgylchedd bryd hynny ydy'r prif weinidog bellach - Carwyn Jones.
Meddai Mr Jones: "Mae rhai cymunedau, rhai ohonyn nhw ym Mhowys, sydd wedi gweld lles ariannol o felinau gwynt, un gymuned er enghraifft, lle mae myfyrwyr yn gallu cael arian er mwyn astudio.
"Mae rhannau eraill o Gymru lle mae arian yn cael ei ystyried ynglyn â datblygiad economaidd, helpu pobl i gael swyddi.
"Dyna'r ffordd i sicrhau bod arian yn dod i mewn i gymunedau lleol. Bydd rhai wastad yn erbyn datblygu, ond beth y' ni'n mynd i wneud? Ydych chi mo'yn cael nwy siâl? Ydych chi mo'yn cael nwy?"
Diffyg pwerau dros gynlluniau ynni dros 50 megawat - sef unrhyw fferm wynt mawr, a phob pwerdy i bob pwrpas - sydd wedi cyfrannu at anhapusrwydd pobl gyda lleoliadau rhai prosiectau ynni.
Ond mi fydd nifer - ym Mhowys a rhannau eraill o Gymru - yn pwyntio bys at Lywodraeth Cymru, a dogfen TAN8 gan ddweud nad oedd digon o ymgynghori a'r cyhoedd yn 2004 a 2005, ac nad oedd digon o ystyried cysylltu egni mewn ardaloedd gwledig gyda'r Grid Cenedlaethol.
Yn olaf, mae corff Cyfoeth Naturiol Cymru newydd gael ei ben-blwydd cyntaf. Cafodd ei sefydlu wrth uno'r Comisiwn Coedwigaeth, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru o fewn un gwasanaeth.
Cymru ydy'r unig wlad ym Mhrydain i wneud hyn, ond yn barod mae peth pryder os mai gwerth adnoddau economaidd yn hytrach na gwarchod cyfoeth cynefinoedd a byd natur Cymru sydd flaenllaw.
Tra bod modd cyd-weithio'n agos rhwng gwahanol gyrff amgylcheddol a'r llywodraeth, mae teimladau hefyd bod angen mwy o weithredu a llai o rethreg ym maes amgylchedd yn ystod y 15 mlynedd nesaf.
Straeon perthnasol
- 27 Rhagfyr 2013
- 1 Ebrill 2013
- 22 Mai 2013
- 24 Medi 2013
- 22 Hydref 2013
- 4 Rhagfyr 2013