John Hartson: "marw" os gamblo unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
John Hartson

Mae cyn bêl droediwr Cymru wedi dweud y bydd yn "marw" os y bydd yn gamblo unwaith eto.

Dywedodd John Hartson wrth Dylan Jones ar BBC Radio Cymru ei fod wedi gamblo ers 20 mlynedd ond ei fod erbyn hyn wedi trechu'r salwch.

"Os fi'n gamblo fi'n mynd i farw. Dyna beth wi'n ei feddwl. Os fi'n gamblo eto byddai'n colli gwraig fi, Sarah, a'r plant.

"Bydd hi'n mynd i ffwrdd gyda'r plant. Hynna bydd diwedd y byd i fi. Y ffordd 'wi'n meddwl am gamblo nawr, os fi'n cael un bet arall byth, byddai'n marw."

16 oed oedd Hartson pan ddechreuodd o ddefnyddio peiriannau gamblo. Mae'n dweud na allith o brynu tocyn loteri na raffl hyd yn oed am y gallai hynny olygu y byddai yn ail gychwyn eto.

Ond mae'n teimlo ei fod wedi trechu'r ddibyniaeth a dydy o ddim wedi gamblo ers tair blynedd.

Nos Fercher mi fydd y dyn 39 oed wnaeth sgorio 175 o goliau mewn dros 17 tymor yn siarad am ei gariad at y gem a'i frwydr i gwffio canser mewn rhaglen ar BBC 1 Cymru.

Mi chwaraeodd o i sawl tîm yn ystod ei yrfa gan gynnwys Arsenal, West Ham a Celtic.

Ffynhonnell y llun, SNS
Disgrifiad o’r llun,
Mae John Hartson wedi dweud y byddai yn hoffi ymwneud gyda'r gêm mewn rhyw ffordd eto yn y dyfodol

Canser yr her fwyaf

"O'n i wastad yn gwybod o'dd talent arbennig o dda gyda fi ers o'n i yn foi ifanc iawn achos o'n i wastad yn ffeindio sgorio gôls yn eithaf hawdd a dweud y gwir."

Ond wrth ddweud ei fod yn falch o'i yrfa mae'n dweud mai taclo'r canser oedd ei gamp fwyaf.

Mae'n bum mlynedd ers iddo gael diagnosis. Roedd y newyddion adeg hynny yn ddu gyda'r afiechyd wedi lledaenu i'w ymennydd.

"Ar un amser oedd e yn edrych yn wael, wael, ofnadwy, bod fi mynd i fynd a gadael y lle hyn. Ond oedd rhywbeth wedi digwydd a lot a lot o lwc. O'n i ddim yn galed. O'n i ddim yn gryf. Ie o'n i yn positif.

"Ond mae pobl yn dweud wrtho fi, 'You must be tough, you must be strong to beat cancer', na, na, na. Cancer has taken a much bigger man than John Hartson in its time. O'n i jest yn lwcus."

Mi wnaeth y salwch ei newid meddai gan wneud iddo werthfawrogi'r pethau syml mewn bywyd.

Doedd y ceir drud, y tai crand a'r siwtiau Armani a Prada yn cyfri dim, meddai.

"Fi wedi newid fel person. Fi dal yn John o'r Trallwng ond fel person mae rhaid i ti newid pan 'chi wedi bod mor agos o gael eich cymryd i ffwrdd o pawb."

Mae rhaglen John Hartson ar BBC 1 Wales am 9pm nos Fercher.