Adroddiad i ddamwain awyren Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
awyrenFfynhonnell y llun, Richard Birch

Gallai awyren fechan darodd goeden gan ladd dyn ac achosi anafiadau difrifol i'w dad a'i ŵyr, fod wedi dioddef o ddiffyg i ran o'r injan oherwydd rhew, yn ôl adroddiad swyddogol.

Fe gollodd yr awyren bŵer wrth i John Nuttall, 61, geisio ei glanio ym maes awyr Caernarfon fis Mai y llynedd.

Fe gafodd Mr Nuttall ei anafu'n ddifrifol, bu farw ei fab, Iain Nuttall a chafodd ei ŵyr, Daniel anafiadau difrifol, hefyd.

Roedd y teulu'n hedfan o Blackpool i Gaernarfon.

Ffynhonnell y llun, NW Police
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Iain Nuttall yn y ddamwain

Fe ddywedodd adroddiad y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr (AAIB) na ddaeth yr ymchwiliad o hyd i "unrhyw dystiolaeth o ddiffygion o fewn yr injan, ond fe arweiniodd yr awyrgylch at rewi yn y carbwradur."

Mae rhewi yn y carbwradur [carburettor icing]yn digwydd pan fo'r aer yn llaith, a'r tymheredd yn gostwng gan achosi i ran o'r injan rewi.

Fe ychwanegodd yr adroddiad bod archwiliad post mortem ar Iain Nuttall "wedi canfod tystiolaeth oedd yn awgrymu nad oedd o'n gwisgo gwregys am ei lin na'i ysgwyddau pan ddigwyddodd y ddamwain."