Marwolaeth dyn 'drws nesa' i ysbyty
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaeth Ambiwlans yn ymchwilio i farwolaeth dyn o Lanelli ar ôl iddo aros am ddwy awr am ambiwlans, er ei fod yn byw y drws nesa i Ysbyty Tywysog Phillip yn Llanelli.
Cafodd Trevor Bryer, 72 oed, strôc yn ei gartref.
Fe alwodd ei wraig Karen am y gwasanaethau brys ar ôl iddo gael ei daro yn wael, ac fe ffoniodd ddwywaith eto cyn i'r ambiwlans gyrraedd.
Fe ddaeth y criw ambiwlans i'w gartref ar ôl teithio 50 milltir, cyn ei gludo i'r ysbyty cyfagos.
Bu farw Mr Bryer ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.
Dywedodd Ms Bryer: "Hon oedd noson waethaf fy mywyd. Bu'n rhaid i ni aros ag aros.
"Sut gymerodd hi ddwy awr i'r ambiwlans gyrraedd?"
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod yn cydymdeimlo'n fawr a'r teulu. Cadarnhaodd y gwasanaeth eu bod yn cynnal ymchwiliad swyddogol i'r digwyddiad.