'Esgeulustod' mewn cartref gofal
- Cyhoeddwyd

Mae tri pherson wedi cael eu harestio yn dilyn esgeulustod honedig mewn cartref gofal yn ne Cymru.
Fe gafodd dau ddyn, 27 a 72 oed, a dynes 42 oed o ardal y Rhondda eu harestio dan amheuaeth o egseulustod bwriadol o oedolyn bregus, a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Dywedodd yr heddlu mai ym mis Mawrth y bu'r digwyddiad honedig yng nghartref preswyl Zoar yn Nhonypandy.
Mae'n debyg mai dynes 88 oed oedd yn byw yno ar y pryd oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Dywedodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW), sy'n goruchwylio'r cartref:
"Rydym ni'n gweithio'n agos gydag ymchwiliad yr heddlu a chyda'r awdurdod lleol i warchod lles trigolion y cartref."
Fe wrthododd Cyngor Rhondda Cynon Taf wneud sylw ar y mater.
Mae'r cartref preifat wedi ei gofrestru i ddarparu gofal i hyd at 30 o bobl dros 65 oed, yn cynnwys rhai â dementia.