Cymorth newydd i gynhyrchwyr bwyd
- Cyhoeddwyd

Mae angen i'r sector cynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru dyfu 30% erbyn 2020. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r targed mewn cynllun gweithredu newydd allai arwain at dŵf pellach i ran o'r economi sydd yn cyflogi 45,000 o weithwyr.
Mae strategaeth y llywodraeth yn cynnwys cynnig cymorth ychwanegol i gynhyrchwr bwyd sydd eisoes yn cyfrannu £5.2 biliwn i economi Cymru.
Bydd Bwrdd Bwyd a Diod newydd yn cael ei sefydlu er mwyn rhoi llais newydd ac arweiniad i'r diwydiant. Bydd pwyslais arbennig ar ddatblygu sgiliau'r gweithlu a marchnata cynnyrch o Gymru.
Yn siarad ar BBC Radio Cymru y bore 'ma dywedodd Geraint Hughes o gwmni bwydydd Madryn ei fod yn cefnogi'r datblygiad.
"Mae cryn oedi wedi bod ond rwy'n croesawu'r ddogfen newydd. Mae sgiliau yn hollbwysig, sgiliau marchnata - nid sgiliau cynhyrchu bwyd yn unig. Mae sefydlu ffederasiwn yn arloesol; mae'n gyfle i gydlynu gweithgareddau. Efallai yr her fwyaf yw cyrraedd y farchnad, yn enwedig i fusnesau cefn gwlad.
"Mae'n bwysig hefyd, wrth anelu at 30% o dwf, beidio cefnu ar y busnesau bach."
Bydd Alun Davies, Gweinidog Adnoddau Naturiol y llywodraeth, yn cyhoeddi rhagor o fanylion mewn cynhadledd i gynhyrchwyr bwyd yng Nghaerdydd.
Dywedodd Mr Davies: "Er mwyn i hyn lwyddo mae'n rhaid i'r cynllun fod yn bartneriaeth rhwng y diwydiant a'r llywodraeth, gyda'r bwrdd newydd yn cynrychioli llais y diwydiant ac yn rhoi arweiniad clir a chryf."