Glynu wrth draddodiad
- Cyhoeddwyd
Gyda Chwpan y Byd ar fin dechrau, mae llygaid y byd yn troi at Frasil am y wledd o bêl-droed sydd yn ein disgwyl dros yr wythnosau nesaf.
Un peth sydd wedi datblygu i fod yn draddodiad i gyd-fynd â phencampwriaethau pêl-droed yw'r ras i lenwi llyfrau sticeri Panini.
'Mecsico 1970' oedd y cyntaf i Panini ei gyhoeddi ar gyfer Cwpan y Byd, er bod cyfrolau ar gyfer cynghreiriau cenedlaethol cyn hynny.
Roedd Phil Stead a'i fab, Ifan, ar raglen Dylan Jones yn ddiweddar yn trafod yr apêl o gasglu sticeri Panini.
'Tyfu fyny' gyda Panini
Mae Geraint Iwan a Dyl Mei yn gyflwynwyr cyfarwydd ar Radio Cymru, ac maent wedi bod yn llenwi'r cyfrolau sticeri ers yn blant.
Dywed Ger: "Fy mrawd oedd yn i hel nhw'n wreiddiol. Oni'n tua phump neu chwech oed ar y pryd ma'n siŵr.
"O'n i dal 'mond yn dod mewn i'r byd pêl-droed ar y pryd ac, i ddangos fy anwybodaeth, dwi'n cofio gwario £1 o'n i 'di gasglu ar y sticeri anghywir, a prynu rhai 'Division 1' ar y pryd, wedyn methu dallt pam doedd 'na ddim lle i sticer Port Vale yn yr un Panini."
Dechreuodd Dyl Mei gasglu'n ifanc iawn: "Un o'n hatgofion cyntaf o ysgol ydi bod yn iard Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth, yn mynd trwy sticeri hogyn o'r enw Siôn Dobson a chael row ganddo am edrych am rai Everton (Dad yn gefnogwr Everton).
"Esboniodd Siôn mai Lerpwl y dylwn i gefnogi am mai nhw oedd y tîm gorau. Ers y diwrnod yna, ac oherwydd y sticeri, Lerpwl 'di fy nhîm."
Casglu'n troi'n obsesiwn?
Dywed Dyl: "Oedd gorffen y casgliad ddim yn gymaint o obsesiwn â hynna, ond mi roedd obsesiwn mewn gorffen y 'shineys'!! Hyd yn oed os fyswn i'n gorfod swapio 20 cyffredin am sticer sgleiniog.
"Eleni, es i drwy dros 40 paced cyn cael hyd i un sgleiniog, a chyn hynna o'n i 'di cychwyn amau bod 'na ddim 'shineys' yn y casgliad. 'Sa hynna di bod yn un o'r pethau mwyaf gwirion ers i Manchester United dalu £27.5 miliwn am Fellaini!"
I Geraint, nid sticeri pêl-droed yn unig oedd yn dal ei sylw pan yn blentyn: "Obsesiwn? Ychydig ma'n siŵr ond dim jest pêl-droed, mi neshi ddechrau rhai WWF (reslo, dim pandas), 'Turtles', 'Gladiators' a 'Thundercats' hefyd.
"Ond dwi yn cofio rhoi tua 30 neu 40 o swaps i ffwrdd am un 'shiney' Brasil - roedd hyn yn ddigwyddiad blynyddol. Ond o'dd o'n un o'r sticeri cyntaf geshi flwyddyn yma. Heb os, un o ddiwrnodau gorau 2014 hyd yn hyn."
Mae Dylan Ebenezer yn gefnogwr brwd o Arsenal, ac roedd yn arfer casglu sticeri Panini. Yr unig beth oedd yn ei boeni pan yn blentyn oedd gallu llenwi tudalen y Gunners:
"Doedd dim diddordeb yn gorffen y llyfr, jyst mod i'n gorffen chwaraewyr Arsenal bydden i'n hapus... a chasglu ambell i fathodyn clwb arian wrth gwrs."
Cyfrol gofiadwy?
"Cwpan y Byd Mecsico 86 oedd uchafbwynt fy nghasglu. Bu bron i mi orffen y llyfr am yr unig dro yn fy mywyd. Roedd y gystadleuaeth gyfan yn rhyfeddol diolch wrth gwrs i Diego Maradona.
"Roedd y ffaith bod Yr Alban (a Charlie Nicholas) yno wedi cynyddu'r diddordeb - ond Maradona oedd y seren.
"Y goliau yn erbyn Lloegr sy'n aros yn y cof wrth gwrs - ond roedd ei berfformiadau trwy gydol y gystadleuaeth yn anhygoel. Y gorau erioed i mi."
Oes cyfrol gofiadwy i Ger? "O ran tymor y Premiership, oes - 1994/95. Roedd Yr Uwch Gynghrair wedi ei ffurfio ers blwyddyn ac yn cael ei weld fel y gynghrair orau yn Ewrop, felly ges i a'm mrawd lyfr yr un yn lle un i rannu!
"Hefyd, yn hwnnw, dwi'n cofio Dad yn pwyntio allan sticer Malcolm Allen i fi, a'i fod o wedi bod yn yr un ysgol uwchradd ac oeddwn i am fynd iddi! Ac o dan enw Malcs, mi odda nhw wedi sillafu enw Deiniolen fel 'Deiniolon'."
Casglu yn y dyfodol?
"Yn bendant. Wel, rhai Cwpan y Byd, dydi'r BBC ddim yn fy nhalu digon i gasglu yn flynyddol" meddai Geraint Iwan wrth chwerthin.
Mae Dyl Mei yn cydweld: "Mi fydda i'n casglu rhai Cwpan y Byd yn bendant, gan mae dim ond pob 4 mlynedd mae'n digwydd, ond fel arall mae'n rhy ddrud i fod yn onest! Dwi hyd yn oed 'di gwario £8.99 i gael sticer arbennig ohonof i fy hun eleni!"
Dydi Dylan Ebenezer ddim yn cytuno:
"Plant yn iawn - pob lwc iddyn nhw - ond druan â'r rhieni sy'n gorfod talu. Fe allai sicrhau pob sticer gostio bron i £450 - gwallgofrwydd!
"O ran yr oedolion sy'n chwysu dros ei swapsies ac yn gwario ffortiwn, mae rhaid bod 'da chi fwy o arian na sens - neu fod hi'n ddiflas iawn iawn iawn ble bynnag chi'n byw.
"Nes i stopio casglu pan o'n i'n iau gan i mi ddarganfod bod yna bethau lot fwy diddorol o gwmpas i wario fy mhres poced arnyn nhw, fel merched a chwrw."
Be bynnag ydi'r farn am sticeri Panini, mae'n saff dweud y bydd criw ffyddlon o bob oed yn edrych ymlaen yn eiddgar i ddechrau eu casgliad newydd pob pedair blynedd.