Pryder am wastraff anghyfreithlon ym Mlaenau Gwent

  • Cyhoeddwyd
CNC logo

Mae un dyn wedi ei arestio yn dilyn cyrch ar gyfleuster gwastraff ym Mlaenau Gwent.

Swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar y cyd â Heddlu Gwent fu'n ymchwilio, yn dilyn pryderon ynglŷn â gweithgareddau gwastraff anghyfreithlon.

Fe ddefnyddiodd y swyddogion warant i chwilio'r safle ar ôl casglu tystiolaeth fod rhai gweithgareddau ar y safle yn torri amodau ei drwydded amgylcheddol.

Meddai CNC, mae dyn "yn ein cynorthwyo gydag ymholiadau" wedi iddo gael ei arestio.

Nawr, bydd timau ymchwilio arbenigol yn crynhoi'r holl dystiolaeth ac yn ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cwmni os bydd angen.

'Ufuddhau'

Fe ddywedodd Jon Goldsworthy, rheolwr amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mae'n ddyletswydd arnom i ymchwilio i'r mater os ydym yn credu bod gweithgareddau gwastraff anghyfreithlon yn digwydd, ac er mwyn sicrhau bod yr holl safleoedd gwastraff yr ydym yn eu rheoli yn ufuddhau i'r rheolau.

"Gall busnesau sy'n gweithredu'n anghyfreithlon gynnig prisiau rhatach a thanseilio busnesau cyfreithlon ac ni fyddwn yn petruso cyn cymryd y camau priodol yn eu herbyn.

"Rydym yn gosod amodau caeth yn ein trwyddedau a hynny am reswm arbennig - er mwyn gofalu bod cymunedau'r ardal a'r amgylchedd lleol yn cael eu diogelu."

Gan fod yr ymchwiliad yn parhau, dyw CNC ddim yn datgelu enw na lleoliad y safle.