Bws maes awyr: Chwilio am gwmni newydd

  • Cyhoeddwyd
Cardiff airportFfynhonnell y llun, MJ Richardson
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r gwasanaeth wedi cael ei feirniadu oherwydd niferoedd teithwyr isel

Mae bws wennol maes awyr Caerdydd yn chwilio am gwmni newydd "ar frys", wedi i First Cymru ddweud na fyddan nhw'n parhau i gynnig y gwasanaeth.

Fe ddywedodd cyngor Bro Morgannwg y byddai'n ail-dendro'r cytundeb ar ran llywodraeth Cymru, er mwyn parhau i gynnig y gwasanaeth heb saib o Awst 16.

Fe gafodd Maes Awyr Caerdydd ei brynu gan lywodraeth Cymru am £52m ym mis Mawrth y llynedd.

Mae'r bws yn teithio rhwng canol Caerdydd a'r maes awyr yn y Rhŵs bob 20 munud.