Dikgacoi ar y ffordd i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae chwaraewr canol-cae Crystal Palace, Kagisho Dikgacoi wedi arwyddo i Gaerdydd.
Roedd cytundeb y dyn 29 oed o Dde Affrica ar ben ym Mharc Selhurst, ac fe wrthododd o gytundeb newydd gan yr Eryrod, gan ddewis arwyddo i Gaerdydd am dair blynedd.
Fe wnaeth Dikgacoi ymddangos 29 o weithiau i Palace y tymor diwethaf, wrth iddyn nhw lwyddo i aros yn yr Uwchgynghrair.