£2,500 am gam-ddeiagnosis

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,
Roedd hi'n fwy na blwyddyn rhwng y tro cyntaf i'r ddynes ymweld â'r ysbyty a'r deiagnosis cywir

Mae dynes wedi cael £2,500 wedi iddi dderbyn diagnosis o strôc pan roedd hi'n dioddef o diwmor ar yr ymennydd.

Fe gafodd y ddynes 45 oed ei gweld yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant yn 2009 ac fe gafodd cyfleoedd i ddarganfod y canser eu methu dro ar ôl tro am dros flwyddyn.

Mae'r corff oedd yn gyfrifol am ei gofal - Bwrdd Iechyd Cwm Taf - wedi ymddiheuro.

Dywedodd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Cymru y dylai'r ddynes fod wedi cael apwyntiad i weld niwrolegydd neu i gael sgan MRI ynghynt.

Fe ddaeth yr ombwdsmon i'r casgliad bod methiannau yn y ffordd cafodd ei hachos ei thrin.

Pe byddai hi wedi derbyn diagnosis yn gynharach mi fyddai hyn wedi rhoi sicrwydd iddi am ei chyflwr ac wedi arwain at ffyrdd i drin ei symptomau a llethu'r boen roedd hi'n ei ddioddef.

Roedd rhywrai wedi "cymryd yn ganiataol" ei bod hi wedi cael ei chyfeirio a'i bod hi'n aros i weld arbenigwr, ond yn hytrach roedd hi wedi cael ei gyrru am adolygiad o'i hiechyd meddwl.

Y rheswm am hyn oedd bod cred ei bod hi'n dioddef o gyflwr seicosomatig.

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn dweud bod gwersi wedi cael eu dysgu.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Rydym wedi rhoi system newydd yn eu lle ar gyfer monitro cyfeiriadau rhwng clinigwyr ac rydym yn parhau i gymryd rhan mewn datblygu systemau electroneg..."