Cwrs 'chwyldroadol' am droseddau gyrru
- Cyhoeddwyd

Bydd cwrs gyrru newydd yn cael ei gynnig i bobl ifanc sydd wedi eu cael yn euog o droseddau gyrru yn y gorffennol.
Mae'r cwrs dau ddiwrnod yn cael ei ddisgrifio fel un "chwyldroadol" gydag effaith damwain ar y gyrrwr a theulu'r dioddefwr yn cael ei drafod.
Yn ystod y cwrs mi fydd straeon pobl sydd wedi colli aelod o'u teulu yn cael eu clywed a bydd damwain car yn cael ei ail greu mewn ffordd realistic.
Y bwriad ydy gwneud i berson feddwl am oblygiadau damwain arnyn nhw a'r rhai eraill allai fod yn y car. Heblaw am yr effaith seicoleg bydd y cwrs hefyd yn trafod faint o ergyd ydy gwrthdrawiad ar berson yn ariannol.
'Bywydau wedi eu dinistrio'
Gwasanaeth Tân a Heddlu Gogledd Cymru sydd yn cynnig y cyrsiau ond bydd sawl asiantaeth arall yn cyfrannu.
Goryrru, alcohol a chyffuriau, ffonau symudol, gwregys a gyrru yn anghyfrifol ydy'r prif themâu yn ystod y ddau ddiwrnod am mai rhain yw'r prif resymau pam fod damweiniau yn digwydd.
Llywodraeth Cymru sydd yn ariannu'r cyrsiau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf ac mi fyddan nhw'n digwydd mewn gorsafoedd tân ar draws gogledd Cymru.
Dywedodd Darren Wareing o Heddlu Gogledd Cymru: "Yn rhy aml, mae'r Heddlu a'r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi gweld y trychineb ar ein ffyrdd pan mae bywydau wedi eu dinistrio, yn dilyn gwrthdrawiad ar y ffordd.
"Mae'r boen a'r marwolaethau diangen yn cyffwrdd teuluoedd, ffrindiau a chymunedau ar draws gogledd Cymru. Wrth weithio gyda'n gilydd rydyn ni yn gobeithio codi ymwybyddiaeth ac addysgu gyrwyr o oblygiadau ymddygiad gwael tu ôl yr olwyn."
Ar yr un diwrnod mae'r DVLA a GoSafe yn lansio ymgyrch diogelwch yn Abertawe ar ôl i 2,000 o bobl ifanc golli eu trwydded gyrru'r llynedd.
Ymhlith y siaradwyr bydd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys a'r gyflwynwraig BBC Sophie Morgan sydd ddim yn gallu cerdded ers iddi gael damwain car yn 2003.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2013