Gleision: Amddiffyn yn cloi eu hachos

  • Cyhoeddwyd
Malcolm Fyfield
Disgrifiad o’r llun,
Mae cyn reolwr y pwll Malcolm Fyfield, a pherchnogion y lofa, MNS Mining Ltd yn gwadu cyhuddiadau o ddynladdiad.

Yn ei haraith grynhoi, mae'r fargyfreithwraig sy'n cynrychioli Malcolm Fyfield wedi dweud wrth y rheithgor i stopio erlyniad sydd fel "jygarnot".

Dywedodd Elwen Evans QC fod yr achos yn erbyn Mr Fyfield fel "jygarnot" gyda'r "Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE)" wrth y llyw.

Yn ôl Ms Evans mae'r HSE wedi bod yn ei "yrru i'r cyfeiriad anghywir, gydag eraill yn neidio arno".

Mae Malcolm Fyfield yn gwadu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad wedi i David Powell, 50 oed, Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, farw yn nhrychineb y Gleision ym mis Medi 2011.

Mae perchnogion y lofa, MNS Mining hefyd yn gwadu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.

'Trywydd anghywir'

Gan ehangu ar ei chymhariaeth, aeth Ms Evans ymlaen i ddweud: "Mae'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, gwleidyddion, y wasg a rhai aelodau o'r cyhoedd yn neidio ar ei fwrdd, yn ennill cyflymder wrth iddo ddilyn y trywydd anghywir. Hedfan i lawr y trywydd anghywir.

"Roedd un dyn yn sefyll o'i flaen gan ddweud 'stop, rydych yn mynd y ffordd anghywir, doedd dim dŵr yno' a'r dyn hwnnw oedd Malcolm Fyfield.

"Wrth i'r jygarnot daranu i lawr yr allt, mae yna 12 o bobl all ei stopio. Rydym ni, ar ran Malcolm Fyfield, yn eich gwahodd i ddweud stop.

"Y dyfarniad cywir, y dyfarniad teg, yw dieuog. Diolch yn fawr iawn i chi."

Mae'r achos yn parhau.