Cwpan y Byd: Fuoch chi 'rioed yn Rio?
- Published
Mae Jonathan Francis Roberts, sy'n wreiddiol o'r Bala wedi byw a gweithio yn Rio de Janeiro ers dros ugain mlynedd. Mae o wedi bod yn son am y cynnwrf yn y ddinas ar ddechrau achlysur mwya'r byd pêl droed - cystadleuaeth Cwpan y Byd:
Newydd ddechrau mae'r cynnwrf. Pawb yn gadael eu gwaith yn gynnar. Hir yn cychwyn oedd y cynnwrf, gyda'r holl brotestio, streiciau ac yn y blaen. Mae hi dal yn gymharol dawel yma - tawel, hynny ydi, i gymharu efo cystadlaethau Cwpan y Byd y gorffennol (2010, 2006, 2002 ac 1998. Mi gyrhaeddais i Brasil yn 1996).
Ydi popeth yn barod? Pwy a wyr (wel, nag ydi, i ddweud y gwir). Oes na ormod o arian wedi cael ei wario? Oes. Fydd na waddol parhaol i'r wlad? Go brin. Ydi o'n deg fod tocyn i'r gemau yn ddrytach na chyflog mis rhan fawr o'r boblogaeth? A beth am FIFA?
Ond yn y diwedd, yn Brasil ydan ni. Cartref ysbrydol peldroed. Mae'n wir fod pawb wedi cael llond bol ar y trais, a'r dwyn, a'r tlodi , ond dyma ni ar gychwyn y bencampwriaeth. Bola pra frent" (yn llythrennol: pasiwch y bel ymlaen) yw'r dywediad yma, anghofiwch y problemau, mae'n amser sythu cefn, canolbwyntio ar y gêm (bywyd) ag ymlaen a ni. VIVA BRASIL!