Datganoli 15: Diffyg sylw i Gymru yn y cyfryngau?
gan Huw Thomas
Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Er gwaethaf rhagolygon rhai sylwebwyr am ddyfodol y wasg, mae papurau newydd yn parhau i gael eu darllen gan filiynau o bobl bob dydd.
Ym meysydd gwleidyddiaeth, busnes, chwaraeon ac adloniant mae dylanwad y wasg dal yn gryf.
Yng Nghymru, papurau Prydeinig sy'n hawlio'r nifer fwyaf o ddarllenwyr, o'i gymharu â'r rhai sy'n dewis prynu'r papurau Cymreig fel y Western Mail a'r Daily Post.
Does dim osgoi'r ergyd ddifrifol sydd wedi taro cylchrediadau'r diwydiant yn ystod y 15 mlynedd ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol. Ond mae poblogrwydd y cyhoeddiadau, ac yn fwy diweddar eu gwefannau, yn golygu bod gwleidyddion Bae Caerdydd mor awyddus ag erioed i ddenu eu sylw.
Cymru yn 'stori wleidyddol'
Tasg anodd yw bachu lle ymysg colofnau papurau Fleet Street. Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, mai diffyg democratiaeth oedd canlyniad anfodlonrwydd golygyddion Llundain i gynnwys newyddion o Gymru, neu i esbonio'r gwahaniaethau sy'n bodoli rhwng gwledydd Prydain wrth drafod pynciau fel addysg a iechyd.
Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd golygydd The Independent, Amol Raja, ei fod yn ystyried y gŵyn i fod yn ddilys.
"Mae Cymru wedi ei thrin fel stori wleidyddol, stori Llafur, rhan o'r stori am annibyniaeth [yr Alban] ac mae'n wir i ddweud ei bod wedi dioddef o ddiffyg sylw, ac fe fyddai'n deg i hyn gythruddo rhai o'n narllenwyr Cymreig," meddai.
Serch hynny, mae Mr Rajan yn derbyn i'w bapur, a phapurau eraill Llundain, roi mwy o sylw i'w darllenwyr yn ne Lloegr.
Mae Huw Jones, newyddiadurwr profiadol gydag asiantaeth newyddion rhyngwladol, hefyd yn datgan mai ffocws perchnogion a golygyddion y wasg yn Llundain yw eu cynulleidfa fwyaf.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl [Prydain] yn byw yn Lloegr, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn byw yn Ne Lloegr, ac mae'r rhan fwyaf o gyfoeth Lloegr yn ne Lloegr," meddai Mr Jones.
"A dyna, mewn ffordd, ydi trywydd yr holl bapurau newydd yma."
2 filiwn o ddarllenwyr
Gan dderbyn bod nifer y darllenwyr yn disgyn i bron pob papur newydd, mae'r rhai sydd hefyd â phresenoldeb ar y we wedi gweld cynnydd syfrdanol yn eu cynulleidfaoedd digidol.
Yn ystod ail hanner 2013 roedd gan wefan WalesOnline bron i 2 filiwn o ymwelwyr y mis ar gyfartaledd, ac mae disgwyl i'r ffigwr yna ddyblu erbyn 2015.
Mae'n golygu bod Media Wales, perchnogion y Western Mail a WalesOnline, yn ceisio cadw dylanwad a hanes y papur yn ogystal â chreu arlwy atyniadol a diddorol i ymwelwyr ar y we.
Wrth i wleidyddion baratoi am 15 mlynedd arall, mae nifer wedi'u denu yn barod i rwydweithiau cymdeithasol i geisio hyrwyddo eu cynlluniau a'u llwyddiant heb orfod dibynnu ar gyhoeddwyr traddodiadol ar bapur neu ar-lein.
Neges Gymraeg
Mae Marc Webber, sy'n gyn is-olygydd The Sun Online, yn dweud fod gan wleidyddion yr offer i fachu cynulleidfa i faterion Cymreig heb gystadlu am sylw yng ngholofnau'r papurau newydd.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl nawr yn defnyddio platfformau digidol sydd ddim yn rhan o fusnes Rupert Murdoch neu sy'n adran o'r Daily Mail," meddai.
"Felly mae 'na siawns i roi neges Gymraeg, neges o Gymru, i'r byd i gyd trwy bethau sydd ddim o dan reolaeth rhai fel Rupert Murdoch."
O'i gymharu â chyrraedd tudalen flaen y Western Mail, mae'n weddol hawdd i wleidydd ym Mae Caerdydd gyhoeddi ei newyddion ar y we.
Ond fe fydd rhaid iddynt wneud ymdrech i osgoi cael eu colli ymhlith y llu o wasanaethau ar-lein sy'n ceisio hawlio'r gynulleidfa.
Straeon perthnasol
- 10 Mehefin 2014
- 12 Mehefin 2014
- 11 Mehefin 2014