Lladrad mewn siop fetio
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i ladrad mewn siop fetio yn ardal Grangetown yng Nghaerdydd.
Digwyddodd y lladrad tua 9.50 fore Gwener yn siop Ladbrokes ar Heol Clare.
Y gred ydy ei fod yn cario gwn pan ofynnodd am y pres. Ond chafodd y ferch ddim ei brifo.
Roedd yn gwisgo menyg, top coch a balaclava. Mae'n cael ei ddisgrifio fel dyn o dras Asiaidd, main, 5'5 o uchder a gyda acen leol.
Mae'r heddlu yn gofyn i dystion gysylltu efo nhw trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar y rhif 0800 555 111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol