North 'ar dân' i wynebu De Affrica

  • Cyhoeddwyd
George NorthFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Roedd amheuaeth wedi bod am ffitrwydd George North oherwydd iddo gael feirws

Lleoliad: Growthpoint Kings Park, Durban

Dyddiad: Sadwrn 14 Mehefin, y gic gyntaf Kick-off: 4pm ein hamser ni.

Darlledu: yn fyw ar BBC Radio Cymru, ac uchafbwyntiau ar S4C am 9pm.

Mae hyfforddwyr Cymru yn gynyddol obeithiol y bydd George North yn medru dechrau'r gêm brawf yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn.

Mae'r asgellwr 22 oed wedi cael ei wahanu oddi wrth weddill y garfan ar ôl treulio'r rhan fwyaf yr wythnos yn ei wely oherwydd feirws.

Ond cafodd hyfforddwr yr olwyr Rob Howley ei blesio gan sesiwn hyfforddi North fore Gwener.

"Daeth trwyddi yn dda iawn ac mae e ar dân eisiau chwarae", meddai Howley.

"Wrth gwrs ar ôl methu hyfforddi am sawl diwrnod mae e'n teimlo ychydig yn giami, ond mae amser o'i blaid e."

Bydd Dan Lydiate wrth ochr Aaron Shingler yn y rheng ôl, gyda Matthew Morgan a Gareth Davies ar y fainc.

Fe wnaeth Cymru fwynhau buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn yr Eastern Province Kings yn eu gêm gyntaf ar eu taith.

De Affrica: Willie le Roux, Cornal Hendricks, JP Pietersen, Jan Serfontein, Bryan Habana, Morné Steyn, Fourie du Preez; Gurthrö Steenkamp, Bismarck du Plessis, Jannie du Plessis, Bakkies Botha, Victor Matfield (capten), Francois Louw, Willem Alberts, Duane Vermeulen.

Eilyddion: Schalk Brits, Tendai Mtawarira, Coenie Oosthuizen, Lood de Jager, Schalk Burger, Ruan Pienaar, Johan Goosen Lwazi Mvovo.

Cymru: Liam Williams, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North, Dan Biggar, Mike Phillips, Gethin Jenkins, Ken Owens, Adam Jones, Luke Charteris, Alun Wyn Jones (capten), Dan Lydiate, Aaron Shingler, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Matthew Rees, Paul James, Samson Lee, Ian Evans, Josh Turnbull, Gareth Davies, James Hook, Matthew Morgan.