Mwy o adroddiadau o dreisio yn y gogledd
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiadau o dreisio wedi cynyddu bron i 17% flwyddyn ar ôl lansio uned arbenigol i ddelio â thrais rhywiol yng ngogledd Cymru.
Mae tua 40% o'r achosion sy'n cael eu hadrodd yn rhai hanesyddol sydd, medd yr heddlu, yn dangos fod dioddefwyr erbyn hyn yn teimlo'n fwy hyderus i ofyn am gefnogaeth.
Yn 2013/14 datrysodd Heddlu Gogledd Cymru 90 achos o drais rhywiol o gymharu â 69 y flwyddyn cynt, sef cynnydd o 30.4%.
Cafodd yr uned ei chreu wedi cynnydd mewn achosion o dreisio a throseddau rhywiol, ac mae chwe swyddog arbenigol yn yr uned.
Meddai Ditectif Arolygydd Kelly Isaacs:
"Yr hyn sy'n galondid i mi yw gweld y cynnydd yn nifer sydd yn adrodd yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw sy'n cadarnhau bod gan ddioddefwyr fwy o hyder yn y ffordd y byddant yn cael eu trin gan ein tîm aml asiantaeth arbenigol, a'n blaenoriaeth bob amser yw lles y dioddefwyr ac erlyn y troseddwyr."
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Winston Roddick:
"Rydw i wrth fy modd gyda llwyddiant Tîm Amethyst o ran targedu troseddau o drais rhywiol. Mae hyn wedi bod yn rhywbeth yr wyf wedi bod yn awyddus iawn i'w weld yn cael ei roi ar waith.
"Fyddai hyn ddim yn digwydd oni bai bod modd dangos y gellir darparu gwasanaeth effeithiol, sympathetig ac mae'n glir o'r cynnydd yn y ffigyrau ac euogfarnu mai dyma mae Tîm Amethyst yn ei wneud".