UMCA: Dathlu'r Deugain
- Cyhoeddwyd
Mi fydd yna arddangosfa arbennig yn cael ei chynnal yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth ddydd Sadwrn, Mehefin 14 fel rhan o ddathliadau 40 mlynedd Undeb Myfyrwyr Cymraeg y brifysgol.
Mae UMCA, yn garedig iawn, wedi rhannu gyda BBC Cymru Fyw rhai o'r lluniau fydd yn cael eu dangos. Ond rydyn ni'n awyddus i wybod pwy sydd yn y lluniau a'r hanesion y tu ôl iddyn nhw.
Ffynhonnell y llun, UMCA
Rhan o'r arddangosfa fydd i'w gweld yn Neuadd Pantycelyn
Fel y gallwch ddisgwyl, mae nifer o'r lluniau wedi eu tynnu ar nosweithiau "bywiog" felly dydyn nhw ddim o'r ansawdd gorau ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi eu tynnu cyn dechrau'r oes ddigidol.
Ffynhonnell y llun, UMCA
Pwy yw'r gwenyn?
Ydych chi yn y lluniau neu'n nabod rhai o'r wynebau? Cysylltwch gyda ni cymrufyw@bbc.co.uk
Ffynhonnell y llun, UMCA
Cofio'r ymgyrch ddiweddar i Achub Neuadd Pantycelyn, cartref nifer fawr o aelodau UMCA dros y blynyddoedd