Tanc olew ar fai am lygredd Llyn Padarn

  • Cyhoeddwyd
Llygredd
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod y llygredd wedi dod o danc olew

Tanc olew sydd ar fai ar ôl i lygredd lifo i mewn i Lyn Padarn yn Llanberis yn gynharach yn yr wythnos.

Dechreuodd Cyfoeth Naturiol Cymru ymchwilio ar ôl i lygredd gael ei ddarganfod yn Afon y Bala, sy'n rhedeg i mewn i'r llyn.

Dywedodd CNC bod tanc olew o gartref agos wedi gollwng i'r system garthffosiaeth.

Mae tarddiad y llygredd wedi ei ddiogelu erbyn hyn, ac mae Dŵr Cymru wedi ceisio cadw gymaint o'r olew â phosib yn y system garthffosiaeth ac allan o'r afon.

Dywedodd CNC eu bod yn parhau i fonitro'r afon, a bod arwyddion wedi eu gosod yn rhybuddio pobl i beidio â nofio yno.

Er hynny, dywedodd CNC ei bod hi'n ddiogel i nofio yn Llyn Padarn erbyn hyn.