Gwahardd athro am daro plentyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r athro wedi ei wahardd o'i waith yn Ysgol St Cyres, Penarth
Mae athro o Benarth wedi cael ei wahardd o'i waith yn dilyn honiad iddo daro disgybl mewn dosbarth.
Cafodd yr athro ei gyhuddo o golli'i dymer gan daro bachgen yn Ysgol St Cyres ym Mhenarth.
Fe gadarnhaodd Cyngor Bro Morgannwg a'r heddlu bod athro wedi cael ei wahardd o'r ysgol tra bod ymchwiliad i'r digwyddiad yn cael ei gynnal.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Elmore, aelod o gabinet Cyngor Bro Morgannwg gyda chyfrifoldeb am wasanaethau plant:
"Gallwn gadarnhau bod aelod o staff Ysgol St Cyres wedi cael ei wahardd o'i waith yn dilyn digwyddiad ar 12 Mehefin, 2014.
"Mae'r heddlu yn ymwybodol o'r digwyddiad ac mae swyddogion o'r cyngor ar hyn o bryd yn eu cynorthwyo gyda'r ymchwiliad."