Cyhuddo'r BBC o dorri ymddiriedaeth

  • Cyhoeddwyd
Canolfan newydd BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Argraff artist o'r ganolfan ddarlledu newydd

Mae'r cyn brif weinidog Rhodri Morgan wedi cyhuddo BBC Cymru o "dorri ymddiriedaeth" yn dilyn penderfyniad y gorfforaeth i osod eu canolfan newydd yng nghanol dinas Caerdydd.

Mae Mr Morgan wedi honni bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £10 miliwn ar wella mynediad trafnidiaeth i Fae Caerdydd oherwydd dealltwriaeth y byddai'r BBC yn symud yno.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru bod Mr Morgan "wedi camgymryd".

Ddydd Mawrth cyhoeddodd BBC Cymru eu cynlluniau i symud eu pencadlys yng Nghaerdydd o Landaf i ganol y ddinas erbyn 2018

Disgrifiad o’r llun,
Mynnodd Rhodri Morgan bod BBC Cymru wedi ymrwymo i symud i Fae Caerdydd

Dinas gyfryngau

Fe wnaeth y cyn brif weinidog ei honiadau yn ei golofn wythnosol ym mhapur y Western Mail, ac maen nhw'n ymwneud â sgwrs y mae Mr Morgan yn dweud a gafodd gyda chyn uwch swyddog BBC Cymru, Nigel Walker.

Mr Walker oedd cyfarwyddwr cynllun pentref drama BBC Cymru ym Mhorth y Rhath ym Mae Caerdydd, ond mae bellach wedi gadael y BBC.

Nid oedd Mr Walker am wneud sylw ar yr honiadau.

Mewn cyfweliad gyda'r BBC fe ddywedodd Mr Morgan: "Bum mlynedd yn ôl pan gafwyd cytundeb i sefydlu'r pentre' drama roedd gan y BBC ddau safle ar restr fer - Porth y Rhath, sef yr un gafodd ei ddewis, a hen ffatri Freeman's Cigars ar Ffordd Penarth, sef y safle rhataf.

"Fe wnaethon ni gytuno gyda'r BBC y bydden ni'n rhoi arian i wella'r mynediad ffyrdd - tua £10 miliwn - oherwydd nad oedd safle Ffordd Penarth yn addas i gynllun Dinas Gyfryngau Cymru.

"Am ein bod ni wedi cytuno i roi £10m er mwyn creu Dinas Gyfryngau Cymru, nid dim ond pentre' drama, mae yna dorri ymddiriedaeth wedi digwydd fan hyn ac fe ddylai'r BBC ystyried eu cydwybod a dweud 'efallai y gallwn ni ddod allan o hyn yn gyfreithiol ond mewn gwirionedd mae arnom ni £10m ac ymddiheuriad i Lywodraeth Cymru, ac i'r rhai sy'n talu'r drwydded am ddewis safle drytach ar gyfer y pentref drama'."

'Dadansoddi gofalus'

Mewn datganiad dywedodd BBC Cymru: "Doedd dim cytundeb - ffurfiol nag anffurfiol - rhwng Nigel Walker a'r cyn brif weinidog am adleoli pencadlys BBC Cymru.

"Dyw'r awgrym y gallai unigolyn yn y BBC wneud ymrwymiad o'r fath ddim yn gredadwy wrth ei graffu.

"Daeth ein penderfyniad i adleoli ar ôl blynyddoedd o ddadansoddi gofalus gan ystod eang o staff ar draws y BBC, ac yn dilyn proses dendro agored oedd yn cynnwys dros ddwsin o leoliadau ar draws Caerdydd.

"Mae gan y BBC bresenoldeb sylweddol ym Mae Caerdydd gyda chanolfannau ym Mhorth y Rhath a neuadd Hoddinott. Dylid nodi hefyd bod datblygu Cymru fel prif ganolfan ddrama i'r BBC - gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru - wedi dod â buddsoddiad o dros £150m i Gymru dros y tair blynedd diwethaf."