Merched Cymru 1-0 Merched Twrci

  • Cyhoeddwyd
Sarah WiltshireFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Sarah Wiltshire gafodd unig gôl y gêm

Mae tîm pêl-droed Merched Cymru gam yn nes at Gwpan y Byd yn Canada y flwyddyn nesa' wedi buddugoliaeth arall ddydd Sadwrn.

Twrci oedd yr ymwelwyr i faes Hwlffordd, ac fe gafodd bron 900 o gefnogwyr aeth yno wledd o bêl-droed.

Cyn dechrau'r rowndiau rhagbrofol, roedd Twrci yn uwch ar restr detholion y byd na Chymru, ond wedi i ferched Jess Fishlock, y capten, ennill yn gyffyrddus oddi cartre' roedd y gobeithion yn uchel am dri phwynt arall.

Roedd rhaid disgwyl dros hanner awr am y gôl gyntaf, ond roedd yn werth disgwyl.

Daeth pas ardderchog gan Hayley Ladd i lwybr Sarah Wiltshire, ac fe rwydodd hi i roi Cymru ar y blaen.

Fe allai Ladd ei hun fod wedi dyblu'r fantais cyn yr egwyl gydag ergyd dda o 25 llath, ond llwydodd golwr Twrci i wthio'r bêl dros y trawst.

Mwy o'r un peth ddaeth wedi'r egwyl gyda golwr Twrci, Ezgi Caglar, ar ei gorau i arbed cynnig Ladd o bellter.

Er nad oedd y canlyniad mor drawiadol â'r 5-1 allan yn Nhwrci, y pwyntiau oedd yn bwysig, ac fe ddaliodd Merched Cymru eu gafael ar y tri.

Fe fyddan nhw nawr yn teithio i Belarus ar gyfer y gêm nesa ddydd Iau - y gyntaf o dair gêm fydd yn penderfynu pwy sy'n mynd i Ganada.

Lloegr gartref ym mis Awst ac Iwcrain oddi cartre' ym mis Medi yw'r ddwy olaf.