Yr Alban: 'Dim newid i Gymru' medd 61%
- Cyhoeddwyd

Mae bron dau draean o etholwyr Cymru yn credu na ddylai pleidlais 'IE' yn refferendwm yr Alban ar annibyniaeth newid y modd y mae Cymru'n cael ei llywodraethu, yn ôl arolwg barn a gomisiynwyd gan BBC Cymru.
Mae'r arolwg yn dangos bod 61% yn credu na ddylai pleidlais 'IE' wneud unrhyw wahaniaeth i'r modd y mae Cymru'n cael ei rheoli.
Mae'n dangos hefyd bod 17% yn credu y dylai pleidlais 'IE' arwain at fwy o bwerau i'r Cynulliad yng Nghymru gydag 14% yn credu y dylai pleidlais 'IE' arwain at gynnal pleidlais ar annibyniaeth i bobl Cymru.
Cafodd yr arolwg barn ei gomisiynu gan BBC Cymru fel rhan o'r gyfres 'Mesur Datganoli'.
'Anodd dychmygu'
Wrth roi ei farn ar ganlyniadau'r arolwg, dywedodd yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym mhrifysgol Caerdydd wrth raglen Sunday Politics Wales:
"Rwy'n credu bod llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd dychmygu a deall beth fyddai pleidlais 'IE' yn yr Alban yn ei olygu, a beth fyddai'r goblygiadau posib i Gymru.
"Ar hyn o bryd mae'r refferendwm dri mis i ffwrdd, ac mae'n dal yn ymddangos mai 'NA' yw'r canlyniad mwyaf tebygol.
"Ond mae pleidlais 'IE' yn sicr yn bosib, a phe bai hynny'n digwydd efallai bydd yn dechrau newid y ffordd y mae pobl yng Nghymru yn meddwl am bethau.
"Efallai bod yr arolwg hefyd yn awgrymu mai'r hyn sy'n bwysig i lawer o bobl yng Nghymru yw nid y DU fel y cyfryw ond yr uniad rhwng Lloegr a Chymru.
"Dyna sy'n bwysig go iawn iddyn nhw yn nhermau'r modd y mae Cymru'n cael ei llywodraethu."
'Trawsnewid'
Fe wnaeth rhaglen Sunday Politics Wales hefyd siarad gyda'r ddwy ochr yn ymgyrch refferendwm yr Alban.
Dywedodd ASE y blaid Werdd, Patrick Harvie, sy'n cefnogi pleidlais 'IE' y byddai pleidlais o'r fath yn drawsnewidiol:
"Os ydych chi am weld y math o drawsnewidiad y mae'r blaid Werdd ac eraill yn rhengoedd radical gwleidyddiaeth yn credu sy'n angenrheidiol, dydw i ddim yn gweld hynny'n digwydd o ddiwylliant San Steffan.
"Dydw i ddim yn gweld cyfle i greu'r lle i newid gyda phleidlais 'NA'. Fe allai pleidlais 'IE' nid yn unig newid yr Alban... fe allai sbarduno'r newid yna yng ngweddill y DU."
'Gweddill y DU'
Dywedodd yr ASE Ceidwadol Liz Smith, sy'n cefnogi pleidlais 'NA', bod mwy o ddiogelwch i'r Alban drwy aros yn rhan o'r DU:
"Rydym yn gwbl bendant, ac rwy'n credu bod y mwyafrif llethol yn yr Alban yn bendant os ydych chi'n credu nifer o arolygon barn, ein bod yn well fel rhan o'r DU.
"Rydym yn gwneud y penderfyniad yna nid yn unig ar sail beth sy'n well i'r Alban, ond beth sy'n well i weddill y DU gan gynnwys Cymru."
Bydd etholwyr yn yr Alban yn pleidleisio yn y refferendwm ar annibyniaeth ar 18 Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd27 Mai 2014