Apêl Samariaid oherwydd mwy o alwadau
- Cyhoeddwyd

Mae prinder gwirfoddolwyr yn ei gwneud hi'n anodd i'r Samariaid ddelio gyda'r nifer cynyddol o alwadau y maen nhw'n eu derbyn mewn un rhan o Gymru.
Wrth i gangen y Rhyl o'r elusen ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed, maen nhw'n apelio am fwy o wirfoddolwyr yn enwedig gyda'r nos pan mae'r mwyafrif o'r galwadau'n dod i mewn.
Bob blwyddyn mae'r ganolfan yn y Rhyl yn derbyn dros 9,400 o alwadau gan bobl sydd wedi cyrraedd pen eu tennyn.
Tua 40 o wirfoddolwyr sydd ar gofrestr y gangen - gyda thua 25% o'r rhain yn medru'r Gymraeg - ond nid yw hynny'n ddigon i alluogi'r ganolfan i weithio rownd y cloc fel oedd yn arfer bod.
Pan nad oes gwirfoddolwyr lleol ar gael mae galwadau'n cael eu trosglwyddo i rwydwaith genedlaethol yr elusen.
'Rhwydwaith genedlaethol'
Bob blwyddyn yng Nghymru mae 300-350 o bobl yn lladd eu hunain, ond mae'r Samariaid yn awyddus i bobl gysylltu â nhw cyn i bethau fynd i sefyllfa mor argyfyngus.
Nid yw'r sefyllfa mor ddrwg mewn rhai rhannau eraill o Gymru. Yn y gogledd-orllewin, er enghraifft, mae tua 80 o wirfoddolwyr ar y gofrestr gydag oddeutu 50 neu fwy yn medru'r Gymraeg.
Ond dywedodd cyfarwyddwr cangen y Rhyl, Rosemary Howell: "Mae llawer mwy y gallwn ni wneud pe bai gennym fwy o wirfoddolwyr.
"Ar hyn o bryd rydym ond yn medru cynnal y gwasanaeth am fod gennym rwydwaith genedlaethol."
'Cyflogau isel'
Mae ymchwil yn dangos mai dynion rhwng 35-55 oed o grwpiau cymdeithasol/economaidd isel sy'n wynebu'r risg fwyaf o ladd eu hunain, ac mae'r Samariaid wedi gwneud llawer i dargedu'r grŵp yna wrth i bryderon am arian ddod yn fwy amlwg yn y galwadau sy'n dod i mewn.
Ychwanegodd Ms Howell: "Mae hyn yn arbennig o wir yn y rhan yma o orllewin y Rhyl, ac mae'n destun pryder mawr.
"Mae llai a llai o swyddi ar gael gyda nifer o'r rhai sydd ar gael ar gyflogau isel iawn, ac rydym yn derbyn mwy o alwadau o ganlyniad.
"Nos Wener a nos Sadwrn yw'r cyfnodau prysuraf, nid dim ond am fod pobl efallai wedi bod yn yfed, ond yn aml iawn maen nhw wedi bod yn gweithio drwy'r wythnos a dyna'r cyfnod pan maen nhw ar eu pennau eu hunain ac yn teimlo'n unig.
"Mae'n syndod cyn lleied o bobl sy'n gwybod am ein bodolaeth a'n gwaith. Pe bai gennym fwy o wirfoddolwyr fe fydden ni'n gallu treulio amser yn y gymuned yn dweud wrth bobl am yr hyn yr ydym yn ei wneud."
Dywedodd y gallai pobl sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli ffonio 08705 627282.
Straeon perthnasol
- 10 Mehefin 2014
- 20 Mawrth 2014
- 25 Rhagfyr 2013
- 11 Awst 2013
- 22 Ionawr 2013