'Angen un cynllun ailgylchu i Gymru'
- Cyhoeddwyd

Mae'r modd y mae gwasanaethau ailgylchu deunydd o'r cartref yn gweithio yng Nghymru yn "rhy gymhleth, aneconomaidd a dryslyd" yn ôl un ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru.
Peter Davies yw'r Comisiynydd Datblygu Cynaliadwy, ac mae'n cynghori'r llywodraeth ar faterion sy'n cynnwys gwastraff.
Mae'n dweud y gallai un drefn ailgylchu, yn hytrach na 22 gwahanol i bob awdurdod lleol, fod yn gymorth i gyrraedd y nod uchelgeisiol o ailgylchu 58% o wastraff y flwyddyn nesaf.
Bydd cynghorau'n wynebu dirwy o £100,000 am bob 1% y byddan nhw'n brin o'r nod yna.
'Cymru ar y blaen'
Dywedodd Mr Davies: "Allwn ni ddim cael 22 trefn wahanol - mae'n llawer rhy ddryslyd ac aneconomaidd.
"Fe fyddai arbedion graddfa gydag un system yn fwy, ac fe allwch chi gael rhywfaint o gysondeb o ran y neges a chyfathrebu ar draws Cymru.
"Rydym wedi gwneud yn dda yng Nghymru o safbwynt cyrraedd targedau ailgylchu - mae'n un maes lle'r ydym ar y blaen i weddill y DU.
"Yr her go iawn yw mynd â hynny i'r lefel nesaf. Rhaid cadw pethau'n syml, ac ar y funud mae'n rhy gymhleth."
Ychwanegodd Mr Davies fod y pwyslais ar hyn o bryd ar y broses o gasglu sbwriel a'i ailgylchu yn hytrach nag ar y bobl. Dywedodd:
"Mae pobl eisiau gwneud yr hyn sy'n iawn, ond mae angen gwneud hynny'n haws iddyn nhw a sicrhau eu bod yn deall beth yw'r peth iawn i wneud.
"Ar hyn o bryd mae pobl yn rhoi bagiau allan ac mae rhywun yn mynd â nhw i ffwrdd... ond does dim eglurhad iddyn nhw beth sy'n digwydd o'r bagiau - pam nad yw rhai'n cael eu cludo a beth ddylai fynd i'r bag hwn neu'r bag yna."
Mesurau amrywiol
Nod Llywodraeth Cymru yw i beidio gyrru gwastraff i safleoedd tirlenwi o gwbl erbyn 2050 drwy ailgylchu mwy o'n gwastraff.
Er mwyn gwneud hynny rhaid i gynghorau ailgylchu 58% o'u gwastraff y flwyddyn nesaf neu wynebu dirwy o £100,000 am bob 1% y maen nhw'n brin o'r nod.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf am flwyddyn gron, dim ond Cyngor Sir Ddinbych fyddai'n osgoi dirwy gan eu bod yn ailgylchu 58% o'u gwastraff.
Rhondda Cynon Taf oedd yr awdurdod gwaethaf - fe wnaethon nhw ailgylchu 46.2% o'u gwastraff dros y flwyddyn lawn ddiwethaf lle mae ystadegau ar gael.
Ymhlith y mesurau sy'n cael eu hystyried gan amryw awdurdodau ar draws Cymru mae :-
- Cyngor Abertawe yn gosod cyfyngiad o dri bag du bob pythefnos;
- Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi prynu biniau llai (140 litr yn lle 240 litr) a Chyngor Casnewydd yn ystyried dilyn yr un trywydd;
- Cyngor Gwynedd yn ystyried casglu biniau gwastraff cyffredinol bob tair wythnos yn hytrach na bob pythefnos.
'Budd i fusnesau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Mae targedau ailgylchu Cymru yn heriol ond yn gyraeddadwy. Fe fydd ailgylchu ond yn parhau i gynyddu os yw hi'n hawdd i bobl wneud hynny.
"Rydym am wneud ailgylchu yn hawdd. Bydd pob cyngor unigol yn penderfynu sut i ddarparu'r gwasanaethau a beth sydd orau i'w hardaloedd nhw.
"Bydd cynyddu faint o ddeunydd ailgylchu sydd ar gael, a'i ansawdd, o fudd i fusnesau Cymru sy'n gallu defnyddio'r deunydd yma gan arwain at greu twf a swyddi gwyrdd.
"Mae Llywodraeth Cymru'n darparu £66 miliwn o gefnogaeth i gynghorau eleni, a thrwy Rhaglen Newid Cydweithiol yn darparu cefnogaeth i awdurdodau sy'n ceisio gwella perfformiad a thorri costau.
"Mae hyn yn cynnwys £4 miliwn yn ychwanegol o gyllid cyfalaf ar gyfer isadeiledd gwastraff newydd."
Straeon perthnasol
- 3 Mehefin 2014
- 29 Ebrill 2014
- 1 Ebrill 2014
- 17 Ionawr 2014