Ffracio: 'Rhaid gwarchod yr amgylchedd'
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Llun yn dweud na ddylai'r buddion posib ddaw o bresenoldeb nwy siâl yng Nghymru fod ar draul yr amgylchedd naturiol.
Cyhoeddir yr adroddiad gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan, ac mae'n dweud y dylai llywodraethau'r DU a Chymru ystyried y risg amgylcheddol - gan gynnwys sŵn traffig ac effaith weledol - sy'n gysylltiedig â phroses ffracio.
Mae llywodraeth San Steffan wedi amcangyfrif y bydd 70% o gyflenwad nwy'r DU yn cael ei fewnforio erbyn 2025, a'i bod felly'n hanfodol bod y DU yn canfod ffynonellau newydd o nwy er mwyn gwarchod diogelwch y cyflenwad.
Ar draws y DU mae'r dasg o chwilio am nwy siâl yn y dyddiau cynnar a does dim data dibynadwy hyd yma faint o nwy siâl sydd yng Nghymru.
Er bod cynrychiolwyr o'r diwydiant yn rhagweld y bydd cyflenwad helaeth o nwy siâl yma, fe allai fod yn ddegawd cyn y bydd modd creu diwydiant nwy siâl yng Nghymru.
Argymhellion
Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnwys nifer o argymhellion allweddol, gan gynnwys:-
- Dylai'r ddwy lywodraeth weithio gyda chwmnïau masnachol i ddarparu amcangyfrif dibynadwy o faint o nwy siâl sydd yng Nghymru, a chyhoeddi'r canlyniadau cyn diwedd 2014;
- Dylai'r ddwy lywodraeth asesu faint o gyfraniad fydd gan nwy siâl ar faint o ynni fydd yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru a'r DU;
- Dylai Llywodraeth Cymru ddechrau ystyried y cyfleoedd am swyddi ddaw yn sgil nwy siâl a sut i wneud y gorau ohonyn nhw - gan gynnwys ystyried pa sgiliau fydd eu hangen;
- Rhaid i lywodraeth y DU roi mwy o wybodaeth am sut y bydd cymunedau yng Nghymru yn elwa - yn ariannol neu fel arall - o waith nwy siâl yn eu hardaloedd nhw;
- Rhaid i'r ddwy lywodraeth sicrhau bod y fframwaith rheoleiddio a chynllunio yn ystyried traffig a sŵn gan waith nwy siâl yn ogystal â'r effaith weledol a risgiau amgylcheddol eraill sy'n gysylltiedig â ffracio;
- Mae mater trin dŵr gwastraff yn bryder cynyddol - ni ddylai dŵr gwenwynig neu ymbelydrol fedru llygru'r cyflenwad dŵr;
- Dylai'r llywodraeth ystyried gwrthod gwaith nwy siâl mewn ardaloedd sensitif yng Nghymru fel Ardaloedd o Harddwch Naturiol Neilltuol, Ardaloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Pharciau Cenedlaethol.
'Ymwybodol o risg'
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan yw David Davies, aelod seneddol Ceidwadol Mynwy, a dywedodd:
"Mae gan nwy siâl y potensial i gynnig llu o fuddion i Gymru yn nhermau cyflenwad ynni, buddion economaidd a chyflogaeth.
"Rydym yn ymwybodol o risgiau amgylcheddol: rhaid i lywodraethau'r DU a Chymru ddangos fod popeth wedi cael ei wneud i asesu a lliniaru'r risgiau hynny i'r amgylchedd ac i fwynhad pobl Cymru ohono cyn y gallwn symud ymlaen i wneud y gorau o'r buddion i Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2014
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2013