Dechrau cymhedrol i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Michael Hogan oedd bowliwr mwyaf llwyddiannus Morgannwg ddydd Sul
Dechrau cymedrol gafodd Morgannwg ar ddiwrnod cynta'u gêm bencampwriaeth yn erbyn Caint yng Nghaerdydd.
Fe ddechreuodd yr ymwelwyr yn dda gan sgorio 74 am y wiced gyntaf diolch yn bennaf i Robert Key.
Ond pan aeth y wiced gyntaf i Andrew Salter, fe ddilynodd sawl un arall, ac ar un cyfnod roedd Caint yn 157 am 6 wiced.
Methodd Morgannwg a manteisio ar y sefyllfa dda yna, ac erbyn diwedd y diwrnod cyntaf yn Stadiwm Swalec, roedd yr ymwelwyr wedi cyrraedd cyfanswm teilwng o 236 am wyth wiced.
Michael Hogan oedd bowliwr mwya' llwyddiannus y tîm cartref gan gipio tair wiced.
Morgannwg v. Caint - Pencampwriaeth y Siroedd, Stadiwm Swalec Caerdydd :-
Caint (batiad cyntaf) - 236/8