Dechrau'r gwaith o godi ysgol newydd

  • Cyhoeddwyd
Dymchwel Ysgol GroeslonFfynhonnell y llun, Gerallt Llewelyn
Disgrifiad o’r llun,
Cwmni Watkin Jones gafodd y cytundeb i ddymchwel hen ysgol y Groeslon a chodi'r un newydd

Bydd y gwaith yn dechrau fore Llun o godi ysgol newydd ar gyfer plant ardal y Groeslon yng Ngwynedd.

Yn 2012 fe wnaeth nifer o rieni plant yr ysgol gynradd yn y pentref brotestio a gwrthod gadael eu plant fynd i'r ysgol oherwydd cyflwr truenus yr adeilad.

Fe wnaeth Cyngor Gwynedd gais am arian i godi ysgol newydd, ond mynnodd Llywodraeth Cymru bod unrhyw ysgol newydd yn gwasanaethu ardal ehangach na'r pentref ei hun, ac fe wnaed penderfyniad i gau ysgolion pentrefi Carmel a'r Fron gerllaw.

Mae yna deimladau cymysg yn yr ardal fore Llun wrth i gontractwyr ddechrau ar y gwaith o godi'r ysgol gynradd newydd gwerth £4.8 miliwn.

Roedd Vicky Birch yn un o'r rhieni fu'n protestio dwy flynedd yn ôl, a dywedodd:

"Dwi'n falch bod y gwaith wedi dechrau... piti ein bod ni wedi gorfod mynd i brotest er mwyn cael yr adeilad oedd ei angen.

"Dydi o ddim cweit fel y bydden ni wedi dymuno - doedden ni ddim yn disgwyl cau dwy ysgol arall er mwyn cael ysgol ardal i'r Groeslon, ond mi ydan ni nawr yn edrych ymlaen."

Teimladau cymysg

Cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Carmel yw Cadfan Roberts, ac mae o hefyd wedi cael ei ethol i arwain llywodraethwyr cysgodol yr ysgol newydd. Roedd ganddo deimladau cymysg, a dywedodd:

"Roeddwn i'n anhapus iawn bod yr ysgol yn cau - roedd yn newyddion drwg i bawb yn y pentref.

"Ond nes i benderfynu edrych ymlaen, anghofio beth oedd wedi digwydd a cheisio sicrhau bod bob plentyn o ysgolion Carmel a'r Fron yn hapus yn yr ysgol newydd achos dyna sy'n holl bwysig."

Y Cynghorydd Gareth Thomas sydd â chyfrifoldeb am addysg ar Gyngor Gwynedd, a dywedodd:

"Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bobl, ond yr hyn sy'n galonogol ydi fod pobl y tair ardal wedi tynnu at ei gilydd, a hynny oherwydd lles y plant."