Merch 3 oed wedi marw wedi tân yng Nghaerfyrddin

Bryn Gorwel
Image caption Digwyddodd y tân ar stryd Bryn Gorwel yng Nghaerfyrddin

Mae merch dair oed wedi marw yn dilyn tan mewn tŷ yng Nghaerfyrddin nos Sul.

Mae menyw yn ei 20au yn dal yn Ysbyty Treforys mewn cyflwr difrifol ac mae dyn hefyd yn dal i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Ef yw tad y plentyn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Fryn Gorwel am 18:15 ddydd Sul.

Llwyddodd criwiau tân i reoli'r fflamau am tua 22:00 nos Sul, ond mae'r Heddlu a'r Gwasanaeth Tân yn dal i fod ar y safle.

Dywedodd cymydog ei bod hi wedi rhedeg o'i thŷ ar ol clywed sŵn sgrechian.

"Pawb yn sgrechian"

"Odd hi'n anrhefn. Odd pawb yn sgrechian. O'dd y mwg du yn ddychrynllyd ac mi oedd 'na lot o fflamau. O'dd pobl yn llefen.

"Nath dyn neidio mas trwy'r ffenest ac mi ddath y fenyw mas ar ysgwydd y dyn tân.

"A'th y ferch i'r ysbyty yn jîp yr heddlu."

Yn ôl y cymydog mi oedd y teulu wedi symud i'r ardal ers tua pythefnos.

Mae llygad dyst arall wedi dweud bod y teulu wedi mynd am dro ac wedi dod yn ol i'r tŷ tua 40 munud cyn i'r tân gychwyn.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod swyddogion arbenigol yn cynnig cefnogaeth i'r teulu. Maen nhw hefyd yn dweud ei bod nhw'n parhau i ymchwilio i achos y tân.

Image caption Mae'r Heddlu yn parhau i fod ar y safle ddydd Llun