Clegg am weithredu Silk 2 'yn llawn'

  • Cyhoeddwyd
Nick Clegg

Mae Nick Clegg wedi dweud y bydd ymrwymiad i weithredu argymhellion ail ran Comisiwn Silk "yn llawn" ym maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholiad cyffredinol.

Yn ystod ei gynhadledd fisol i'r wasg, fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog y "dylen ni jyst fwrw ati".

Hyd yn hyn, dyw llywodraeth San Steffan heb ymateb i ail adroddiad Comisiwn Silk, sy'n argymell datganoli pwerau ar gyfiawnder ieuenctid a heddlua i Gymru.

Yn ôl y comisiwn, dylai prosiectau ynni sylweddol fod dan ofal llywodraeth Cymru, a dylid cynyddu nifer Aelodau Cynulliad.

'Mynd amdani'

Fe ddywedodd Mr Clegg: "Dw i'n meddwl y dylen ni wneud Silk 2, dw i'n meddwl mai fi ydi'r arweinydd plaid cyntaf i ddweud, 'Drychwch, dylen ni fynd amdani a chychwyn arni."

"Fe wnaeth Silk 2 osod cynllun clir i ddatganoli rhagor o bwerau i Gymru, gyda chefnogaeth pob plaid yn cynnwys y Ceidwadwyr a Llafur yng Nghaerdydd.

"Fel 'dy chi'n gwybod, mae'n cynnwys materion pwysig fel rheoleiddio ynni... heddlua... a dwi'n credu y dylen ni jysd fwrw ati.

"Felly yn ein maniffesto ni, fe welwch chi ymrwymiad i weithredu Silk 2 yn llawn."