Bom yn achosi tagfeydd traffig yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
traffig Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,
Mae 'na gryn draffig ar y ffyrdd o gwmpas y parc

Mae pobl wedi gorfod gadael busnesau, cartrefi, siopau ac ysgol wedi i fom o'r Ail Rhyfel Byd gael ei ddarganfod ar safle adeiladu yng Nghasnewydd.

Yn ogystal mae nifer o ffyrdd ynghau o gwmpas parc siopa Maes Glas, gan achosi tagfeydd yn yr ardal.

Fe gafodd yr heddlu eu galw yno am 12.45 y p'nawn 'ma.

Mae disgyblion wedi gorfod gadael Ysgol Gynradd Mihangel Sant ac wedi eu cludo i Ganolfan Mileniwm Pilgwenlly.

Fe ddywedodd yr heddlu y byddai rhieni yn casglu'r plant o'r fan honno.

Mae eiddo ar Ffordd Mendalgief wedi eu gwagio hefyd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol