Ad-leoli'r BBC: galw am ymchwiliad
- Cyhoeddwyd

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gofyn i'r archwilydd cyffredinol ymchwilio i honiadau Rhodri Morgan fod y BBC wedi addo adeiladu eu pencadlys newydd ym Mae Caerdydd.
Mae Mr Morgan yn honni bod penderfyniad i fuddsoddi £10 miliwn ar wella ffyrdd wedi cael ei wneud yn sgil addewid gan y BBC.
Wrth gyhoeddi ei bod hi wedi ysgrifennu at Huw Vaughan Thomas ddydd Llun, fe ddywedodd yr aelod cynlluniad Eluned Parrott bod sylwadau Mr Morgan "yn syfrdanol".
Yn gynharach, fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru y bydden nhw wedi ffafrio bod BBC Cymru yn symud i Fae Caerdydd yn hytrach na chanol y ddinas mewn pedair blynedd.
'Dim cytundeb'
Ond mae Carwyn Jones yn dweud nad oedd yn ymwybodol o unrhyw gytundeb rhwng y llywodraeth a'r BBC ynglŷn ag ad-leoli i'r bae.
Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd BBC Cymru y bydden nhw'n symud o Landaf i ganol Caerdydd erbyn 2018.
Yn ei gynhadledd fisol mi ddywedodd Mr Jones: "O'r hyn dw i'n deall doedd 'na ddim cytundeb. Er ein bod ni yn croesawu'r buddsoddiad gan BBC Cymru, dw i'n credu ei bod hi'n deg i ddweud y bydden ni wedi ffafrio'r bae."
Creu 'hyb'
Dywedodd fod yna le yn y bae i fudiadau cyfryngau i greu "hyb, effaith y clwstwr yna rydyn ni eisiau gweld.
"Gyda'r buddsoddiad rydyn ni wedi ei roi roedden ni'n gobeithio y byddai hynny wedi denu'r BBC," meddai.
"Mae'n rhywbeth mae Rhodri wedi codi. Dyw e ddim yn rhywbeth dw i wedi edrych arno yn fanwl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2014