Talcen caled i Gaint yn erbyn Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Michael HoganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Michael Hogan oedd bowliwr mwyaf llwyddiannus Morgannwg ddydd Sul

Mae Morgannwg wedi dechrau'n addawol yn eu batiad cyntaf yn erbyn Caint yn y bencampwriaeth yng Nghaerdydd.

Wedi 42 o belawdau roedd Morgannwg 189-1 oherwydd safiad Rudolph (90 o rediadau) a Wallace (82).

Yn eu batiad cyntaf cafodd Caint gyfanswm o 253 o rediadau.

Roedd yr ymwelwyr wedi dechrau'n dda, gan sgorio 74 am y wiced gyntaf diolch yn bennaf i Robert Key.

Ond pan aeth y wiced gyntaf i Andrew Salter fe ddilynodd sawl un arall ac ar un adeg roedd Caint 157 am 6 wiced.

Michael Hogan oedd bowliwr mwya' llwyddiannus y tîm cartref, gan gipio tair wiced.

Morgannwg v Caint, Pencampwriaeth y Siroedd, Stadiwm Swalec Caerdydd:

Caint (batiad cyntaf) - cyfanswm o 253-8;

Morgannwg (batiad cyntaf) - 154-1